Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Haul yr haf yn hwb i ddiwydiant twristiaeth Brycheiniog

Gweinidog Swyddfa Cymru, yn gweld sut mae sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn ffynnu ym Mrycheiniog.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Brecon tourism industry

Brecon tourism industry

O’i thirweddau bryniog hardd, i groesawu enwau mawr o’r byd jazz i’w gŵyl eclectig flynyddol, bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn gweld heddiw (9 Awst) sut mae sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn ffynnu ym Mrycheiniog.

Bydd yr ymweliad yn cychwyn yng Nghanolfan Groeso Crucywel, lle bydd yn cael ei thywys o gwmpas y ganolfan gydag AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams, a chwrdd â Chlerc y Dref, Jane Johnston, y Cynghorydd Hilary Macaulay a gwirfoddolwyr eraill.

Wedyn, bydd y Farwnes Randerson yn mynd i’r atyniadau twristiaeth lleol, Fferm Cantref a bythynnod gwyliau Bannau Brycheiniog.

Yn y fferm, bydd y Gweinidog yn cwrdd â staff ac yn gweld yr atyniadau i ymwelwyr sy’n cynnwys canolfan farchogaeth ac ysgubor anifeiliaid. Yn y bythynnod gwyliau, bydd y Gweinidog yn cwrdd â’r perchennog, Elizabeth Daniels, i glywed am yr heriau y mae’n eu hwynebu wrth redeg busnes bach ar hyd y flwyddyn yng nghefn gwlad Cymru.

Yr wythnos hon hefyd bydd y digwyddiad cerddorol a threftadaeth blynyddol yn cychwyn sef Gŵyl Jazz Aberhonddu. Mae’r ŵyl yn gyfle i dalent jazz newydd o Gymru ddangos eu talent ymysg artistiaid jazz rhyngwladol enwog megis Django Bates, Jools Holland a Courtney Pine.

Bydd y Farwnes Randerson yn ymuno â gwesteion eraill yn nerbyniad Gŵyl Jazz Aberhonddu yn Siambr y Cyngor, a mynychu sioe Courtney Pine lle bydd yn cyflwyno House of Legends yn ddiweddarach y noson honno.

Mae gan dwristiaeth a lletygarwch rôl bwysig yn sicrhau twf economaidd i Gymru a’r DU.

Yn 2012, gwnaeth trigolion y DU 9.6 miliwn o deithiau dros nos i Gymru, ac amcangyfrifir bod y gwariant cysylltiedig yn £1,588 miliwn. Yn 2011, daeth 879,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario £328 miliwn.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Er fy mod yn adnabod ardal Brycheiniog yn dda, mae llawer o fannau ac atyniadau nad wyf wedi’u canfod eto.

Rwy’n edrych ymlaen at gael cwrdd â swyddogion y diwydiant, a’r rheini sy’n rhedeg busnesau bach sy’n dibynnu ar dwristiaeth, i weld sut mae’r atyniadau hyn wedi elwa o’r tywydd bendigedig yr ydym wedi’i gael yn ddiweddar.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fynychu noson agoriadol Gŵyl Jazz Aberhonddu. Mae rhai o enwau enwocaf y byd jazz a llawer o gerddorion jazz gorau’r byd wedi chwarae yn Aberhonddu. Gobeithio y daw pobl yn eu miloedd i fynychu’r digwyddiadau a manteisio ar yr amrywiaeth wych o adloniant sydd ar gael.

Yn dilyn llwyddiant Gemau’r Olympaidd y llynedd, mae Llywodraeth y Du wedi lansio’r ymgyrch GREAT i farchnata Prydain ar ei gorau, o ran twristiaeth, masnach, creadigrwydd a buddsoddi, i weddill y byd.

Un o’r heriau pwysig i Gymru yw sicrhau bod mwy o’r arian sy’n cael ei wario gan dwristiaid o dramor yn y DU yn dod i Gymru, ac mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni hyn.

Delwedd trwy garedigrwydd Byd Oddy ar Flickr.

Cyhoeddwyd ar 9 August 2013