Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn siarad am ei falchder o’r fyddin yn Niwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru

Alun Cairns: “Diwrnod y Lluoedd Arfog yw’r cyfle cenedlaethol i ddathlu a chofio am ddewrder y dynion a’r merched sy’n gwasanaethu yn ein byddin ni yma yng Nghymru."

Heddiw (dydd Sadwrn Mehefin 27) bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn mynychu Diwrnod Lluoedd Arfog De Cymru sy’n cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd. Mae disgwyl torf fawr i’r lleoliad yng nghanol y ddinas ar gyfer rhaglen lawn, sy’n cynnwys gorymdaith, y gwasanaeth awyr agored traddodiadol, arddangosfeydd milwrol ar Gae Coopers a cherddoriaeth fyw.

Dywedodd Alun Cairns:

Rydw i’n falch o gael ymuno yn y cyfle cenedlaethol yma i ddiolch i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o’r fyddin.

Fis yma eisoes yng Nghaerdydd, mae’r Frenhines wedi anrhydeddu’r Milwyr Cymreig Brenhinol gyda lliwiau newydd i’r gatrawd. Ac mae 2015 wedi bod yn flwyddyn symbolaidd mewn ffyrdd eraill, gyda chanmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig a daucanmlwyddiant Brwydr Waterloo, a roddodd le amlwg i’r Marchoglu Cymreig.

O orffennol milwrol anrhydeddus i gyfraniad cyson yr unedau a’r unedau wrth gefn o Gymru heddiw sydd wedi gwasanaethu yn Iraq ac yn Afghanistan, Diwrnod y Lluoedd Arfog yw ein cyfle cenedlaethol ni i goffau dewrder y dynion a’r merched sy’n gwasanaethu yn y fyddin.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn bresennol yn Niwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, ar 20 Mehefin.

Dangosodd Swyddfa Cymru gefnogaeth bellach hefyd drwy chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog uwch ben Tŷ Gwydyr, pencadlys yr adran yn Llundain.

Nodiadau i olygyddion

  • Eleni cynhelir y seithfed Diwrnod y Lluoedd Arfog blynyddol, gyda digwyddiad cenedlaethol ar ddydd Sadwrn, 27 Mehefin 2015. Mae’n gyfle i’r wlad ddangos ei chefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog: milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, a’r teuluoedd, y cyn-filwyr a’r cadetiaid.
  • Guildford sydd wedi cael ei ddewis i gynnal digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 27 Mehefin
  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael yma
Cyhoeddwyd ar 27 June 2015