Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld sut mae Gorsaf Caerdydd yn gwneud bywyd yn haws i deithwyr

Alun Cairns: "Gyda Chwpan Rygbi’r Byd yma yng Nghaerdydd, mae’n hanfodol bod ein rhwydwaith trenau’n gallu ymdopi â’r galw”

Mae barrau tocynnau newydd, swyddfa docynnau a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid ymysg y datblygiadau newydd yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a fwriedir i wneud teithio’n haws i deithwyr.

Bydd y newidiadau yn helpu i reoli criwiau mawr yn ystod yr amseroedd prysur – er enghraifft, delio ag ymwelwyr Cwpan Rygbi’r Byd – ond hefyd yn ystod rhediad dydd i ddydd yr orsaf.

Mae’r fynedfa newydd ar ochr ddeheuol yr orsaf – y brysuraf yng Nghymru – wedi cael ei dylunio i roi mwy o le i deithwyr.

Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Gyda Chwpan Rygbi’r Byd yma yng Nghaerdydd, mae’n hanfodol bod ein rhwydwaith trenau yn gallu ymdopi â’r galw gan symud miloedd o bobl o gwmpas yn gyflym a chyfforddus – er mwyn osgoi gorlenwi fel gwelson ni dros y Sul.

Mae’n wych gweld sut fydd gwelliannau Network Rail yn caniatáu i orsaf Caerdydd Canolog redeg yn llyfn pan fydd ar ei phrysuraf a pharhau i gadw lan â’n prifddinas fyrlymus.

Meddai Tom Bye, rheolwr prosiect i Network Rail Cymru:

Mae’r rheilffyrdd yng Nghymru yn cludo bron i 50 y cant yn fwy o deithwyr nag yr oeddent 10 mlynedd yn ôl, a disgwylir i’r nifer hwnnw dyfu’n aruthrol yn y blynyddoedd nesaf.

Wrth inni weld mwy o fuddsoddiadau busnes ar yr ochr ddeheuol i orsaf Caerdydd Canolog, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r fynedfa.

Bydd y fynedfa letach hon i’r orsaf yn rhoi mwy o le i deithwyr, gan ganiatáu i fwy fyth o bobl ddefnyddio’r orsaf brysuraf yng Nghymru.

Hoffem ddiolch i deithwyr am eu hamynedd tra bu’r gwaith yn mynd rhagddo ac rydym yn falch dros ben bod y fynedfa newydd wedi agor mewn pryd i groesawu cefnogwyr o bob cwr o’r byd i Gaerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae arwydd art-deco y neuadd docynnau sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r ugeinfed ganrif, wedi cael ei adfer gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd, ac mae’n awr yn hongian yn y swyddfa docynnau newydd.

Mae maes parcio Heol Penarth hefyd wedi cael ei adfer i’w gynllun gwreiddiol. Yn y gorffennol, roedd ochr ddeheuol Caerdydd Canolog yn cael ei hystyried fel cefn yr orsaf, ond mae Network Rail wedi gwella’r fynedfa i ddarparu ar gyfer y niferoedd cynyddol o deithwyr sy’n defnyddio’r fynedfa honno.

Mae mwy o fusnesau i’w cael ar ochr ddeheuol yr orsaf ac mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn defnyddio’r fynedfa hon i fynd i’r gwaith neu i goleg newydd Caerdydd a’r Fro, sydd ond 200m oddi wrth orsaf Caerdydd Canolog. Gyda buddsoddiadau busnes pellach yn yr arfaeth fel rhan o’r Ardal Fenter, mae disgwyl i’r galw hwn gan deithwyr gynyddu ymhellach.

Cafodd y fynedfa newydd yn ochr ddeheuol yr orsaf ei hagor mewn pryd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd a ddechreuodd wythnos diwethaf.

Mae Network Rail hefyd yn gosod trac newydd, signalau newydd a phlatfform newydd yn yr orsaf, gan effeithio cyn lleied â phosibl ar deithwyr, fel rhan o brosiect Adnewyddu Signalau Ardal Caerdydd (CASR).

Cyhoeddwyd ar 21 September 2015