Gweinidog Swyddfa Cymru yn cwrdd â phobl sy’n dychwelyd i weithio yng Nghasnewydd
Gweinidog Swyddfa Cymru yn cwrdd â phobl sy’n dychwelyd i weithio yng Nghasnewydd
Stephen Crabb MP visits Newport Jobcentre Plus
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb yn gweld yr agwedd gadarnhaol sy’n rhoi hwb i bobl ddi-waith Casnewydd yn ôl i fyd gwaith, wrth iddo ymweld â swyddfa Canolfan Byd Gwaith y ddinas a Darparwr Rhaglen Waith heddiw (24 Hydref).
Daw’r ymweliad hwn yr wythnos ar ôl i ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos cynnydd pellach mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf, gyda dros 11,000 yn fwy yn gweithio. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd fod ffigurau diweithdra 1,000 yn is eto yn ystod y chwarter diwethaf, gyda diweithdra ymysg pobl ifanc yn disgyn hefyd, sydd i’w groesawu.
Yng Nghasnewydd, er bod data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos gostyngiad bychan mewn cyfraddau cyflogaeth, mae’r tuedd wedi bod ar i fyny yn gyffredinol o ran nifer y bobl a gyflogir yng Nghasnewydd ers y dirwasgiad, ac mae ffigurau diweithdra wedi bod yn gostwng yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae 2600 yn fwy yn gweithio yng Nghasnewydd yn awr nag a oedd ym mis Mawrth y llynedd.
Yn y Ganolfan Waith yng Nghasnewydd, bydd Mr Crabb yn goruchwylio’r Ganolfan Ragoriaeth a’r Ardal Gweithdai CV. Bydd hefyd yn profi eu ciosg hunanwasanaeth newydd, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd.
Yn nes ymlaen, bydd yn ymweld ag eiddo Rhaglen Waith Cyngor Dinas Casnewydd, ble bydd yn gweld gweithdy digidol chwilio am waith ac yn cael cyfle i sgwrsio â’r hawlwyr am eu profiadau unigol a’r cymorth y maent yn ei gael gan y Ganolfan Byd Gwaith a’r Rhaglen Waith.
Cynllun gan Lywodraeth y DU yw’r Rhaglen Waith, sy’n rhoi cymorth personol i hawlwyr sydd angen mwy o help i ddod o hyd i waith a’i gadw. Mae dros 7,500 o’r bobl anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru wedi cael help i gael swyddi parhaol drwy’r rhaglen ers iddi gael ei lansio yn 2011.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:
“Rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i weld sut mae Canolfan Byd Gwaith a’r Rhaglen Waith yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar bobl Casnewydd i fynd yn ôl i fyd gwaith.
“Mae ffigurau cyflogaeth yn codi’n raddol yng Nghymru, ac mae’r gostyngiad yn nifer y bobl ifanc di-waith i’w groesawu’n arbennig. Ond does dim lle i orffwys ar ein rhwyfau. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i wneud yn siŵr bod y bobl sydd fwyaf angen cymorth yn cael y cymorth hwnnw.
“Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi pobl i ddatblygu gyrfaoedd drwy roi profiadau gwaith a gwybodaeth werthfawr iddyn nhw gyrraedd y farchnad swyddi. Dim ond fel hyn y gallwn ni ddatblygu patrymau cyflogaeth cynaliadwy hirdymor a all sicrhau ffyniant i deuluoedd, cymunedau lleol a’r wlad gyfan.”
Dywedodd Martin Brown, Cyfarwyddwr Grŵp gyda Chanolfan Byd Gwaith Cymru:
“Rwy’n falch iawn fod y Gweinidog yn dod i Ganolfan Waith Casnewydd i weld sut mae ein gwasanaethau’n cael eu moderneiddio a manteisio ar y dechnoleg newydd. Mae cefnogi’r rhai sy’n chwilio am waith i ddefnyddio offer digidol i wneud hynny yn bwysig iawn. Mae Canolfan Waith Casnewydd, mewn partneriaeth â’r cyngor a mudiadau lleol eraill, yn arwain y ffordd gyda’r agenda bwysig hon.”