Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi agor Gorsaf Bŵer Penfro

Bydd Gorsaf Bŵer Penfro yn hybu cenhedlaeth newydd o effeithlonrwydd ynni, yn ol Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru, Stephen Crabb heddiw, wrth …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gorsaf Bŵer Penfro yn hybu cenhedlaeth newydd o effeithlonrwydd ynni, yn ol Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru, Stephen Crabb heddiw, wrth iddo ddychwelyd tuag adref i agoriad swyddogol y cyfleuster modern dros ben hwn.

Mae’r orsaf bŵer, sydd ym mherchnogaeth RWE npower, yn fuddsoddiad gwerth £1 biliwn yn seilwaith ynni’r DU. Bydd yn gallu cynhyrchu cyfanswm o oddeutu 2,000MW, a bydd yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer oddeutu tair miliwn a hanner o gartrefi.

Mae’r cyfleuster wedi creu oddeutu 100 o swyddi sgil uchel, tymor hir, a bydd yn bwysig o ran hybu datblygiad economaidd ehangach y gymuned leol a Chymru gyfan.

Hwn fydd ymweliad swyddogol cyntaf Mr Crabb, sydd hefyd yn AS Preseli Penfro, yn ei rol fel aelod o dim gweinidogol Swyddfa Cymru, pan fydd yn mynd i agoriad swyddogol yr orsaf bŵer heddiw.

Wrth nodi’r digwyddiad pwysig, dywedodd Mr Crabb:

“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, fel AS ac un o drigolion Sir Benfro, i weld dros fy hun sut mae’r cydweithio cryf rhwng RWE npower, busnesau lleol a’r gymuned ehangach wedi ein harwain ni yma heddiw. Rwy’n falch o fod yma i weld bod yr holl waith caled wedi dwyn ffrwyth.

“Bydd y cyfleuster modern hwn nid yn unig yn creu swyddi tymor hir, ond hefyd bydd ganddo rol bwysig yn hyrwyddo datblygiad economaidd ehangach y gymuned leol - a Chymru gyfan - a hynny am genedlaethau i ddod. 

“Gyda mwy a mwy o alw am gynhyrchu ynni, mae angen ffynonellau cynhyrchu pŵer newydd ar y DU. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau fframwaith ariannol newydd, drwy’r Bil Ynni, a fydd yn darparu mesurau effeithlonrwydd ynni i bob preswylydd. Bydd y Bil hefyd yn gweithredu ‘bargen Werdd’ gyda’r nod o ddarparu effeithlonrwydd ynni i gartrefi a busnesau.

“Dros y deg i bymtheg mlynedd nesaf, mae angen buddsoddiad o £200 biliwn ar gynhyrchu newydd, trawsyrru a chynhyrchu ar y DU. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod gennyn ni’r fframwaith iawn er mwyn buddsoddi yn y seilwaith ynni newydd yma, ac i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr y manteisir i’r eithaf ar y cyfleoedd i Gymru.

“Rwy’n hollol sicr y bydd Gorsaf Bŵer Penfro yn chwarae rol hollbwysig yn y broses o gynnal cyflenwadau ynni’r DU yn y dyfodol, gan gyfrannu at ffyniant economaidd i Gymru.”

DIWEDD**

Nodiadau i Olygyddion**

  • I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:**

Swyddfa Cymru - Lynette Evans ar 07826 868 891 / lynette.evans@walesoffice.gsi.gov.uk
RWE Npower - Dan Meredith ar 0776 895 1927 / daniel.meredith@rwenpower.com  

  • Mae technoleg fodern Penfro yn golygu mai dyma yw un o’r gorsafoedd mwyaf effeithiol o’i math yn Ewrop. Bydd yr orsaf bŵer newydd yn cynhyrchu llai na hanner allyriadau CO2 gorsaf bŵer glo o faint tebyg.
  • Ers i’r gwaith adeiladu gychwyn yn 2009, mae’r orsaf bŵer wedi cefnogi dros 170 o wahanol brosiectau amrywiol yn lleol, gan gynnwys clybiau chwaraeon, elusennau, digwyddiadau cymunedol, ysgolion lleol a grwpiau chwarae.
Cyhoeddwyd ar 19 September 2012