Gweinidog Swyddfa Cymru'n croesawu cytundeb gorau erioed Airbus
Alun Cairns: Rhaid i Ogledd Cymru fanteisio ar y Pwerdy Gogleddol
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (18 Awst) ynghylch yr archeb orau erioed am awyrennau Airbus, gan ddweud bod hynny’n profi bod gogledd ddwyrain Cymru’n gymwys i fod yn rhan allweddol o’r Pwerdy Gogleddol.
Mae Airbus - sy’n gweithgynhyrchu adenydd awyrennau ym Mrychdyn - wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi taro’r fargen derfynol gwerth £17biliwn gyda’r cwmni awyrennau o India, IndiGo ar gyfer 250 o’i awyrennau A320neo. Dyma’r nifer fwyaf o awyrennau sydd wedi cael eu prynu dan un archeb gan y cwmni awyrofod.
Wrth siarad yn ystod ymweliad â gogledd Cymru gyda Gweinidog y Pwerdy Gogleddol, James Wharton heddiw, dywedodd Mr Cairns y gall cwmnïau fel Airbus yng ngogledd ddwyrain Cymru elwa’n fawr o fomentwm cynyddol y Pwerdy Gogleddol.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Bydd y newyddion yma’n hwb enfawr i weithlu Airbus ym Mrychdyn, gyda’r archeb orau erioed am adenydd awyrennau.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos bod gennym ni’r gallu a’r sgiliau yng ngogledd ddwyrain Cymru i gael ein cydnabod ar raddfa fyd-eang. Dyna pam ei bod yn hollbwysig fod y rhanbarth yn manteisio ar y Pwerdy Gogleddol. Gallai manteisio ar y cysylltiadau gwell ar draws y ffin arwain at fuddion pellgyrhaeddol, drwy greu swyddi a chynnyrch economaidd, gan danlinellu nodweddion gogledd ddwyrain Cymru unwaith eto fel canolfan gadarn ar gyfer gweithgynhyrchu ym Mhrydain.