Gweinidog Swyddfa Cymru yn lansio ymgyrch recriwtio newydd y Fyddin Diriogaethol – TA LIVE
Heddiw (16 Chwefror) bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld a’r brifddinas i nodi lansio ymgyrch genedlaethol i …

Heddiw (16 Chwefror) bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld a’r brifddinas i nodi lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth a lefelau recriwtio i’r Fyddin Diriogaethol (y TA).
Cynhelir y digwyddiad ‘TA LIVE’ yng Nghastell Caerdydd. Mae hwn yn ymarfer recriwtio a rhannu gwybodaeth ledled y DU gyda’r nod o greu gwell dealltwriaeth o’r manteision i gyflogwyr ac i unigolion o wasanaethu yn y Fyddin Diriogaethol.
Bydd y Farwnes Randerson yn siarad yn y digwyddiad ac yn lansio’r ymgyrch yn swyddogol yng Nghymru. Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion teledu sy’n torri tir newydd yn dangos milwyr y TA yn cyflawni eu dyletswyddau beunyddiol fel Milwyr Wrth Gefn yn Afghanistan, gan sefyll ysgwydd wrth ysgwydd a’u cyd-filwyr Cyffredin, yn ogystal a darllediadau byw o ymgyrchoedd milwrol.
Bydd unedau’r TA o bob rhan o’r wlad hefyd yn cymryd rhan mewn dros 150 o arddangosfeydd a digwyddiadau yn eu cymunedau lleol. Y nod yw dangos manteision bywyd fel milwr y TA.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd y Farwnes Randerson:
“Mae gan Gymru hanes hir o ddarparu aelodau wrth gefn i gefnogi lluoedd arfog y DU, sy’n dyddio yn ol i’r 19eg ganrif, ac mae wedi chwarae rol allweddol o ran amddiffyn y wlad. Mae milwyr wrth gefn y TA y dyddiau hyn yn rhan o fyddin sydd a’r sgiliau a’r cyfarpar angenrheidiol i weithredu ym mhedwar ban byd.
”Dros y blynyddoedd nesaf, bydd rhagor o bwyslais ar waith Milwyr Wrth Gefn, a nod yr ymgyrch hon yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r manteision a’r cyfleoedd sy’n deillio o wasanaethu yn y TA.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddenu unigolion o safon uchel i feddwl am yrfa gwerth chweil a llawn boddhad yn y Lluoedd Arfog, boed hynny fel Milwyr Cyffredin neu Filwyr Wrth Gefn. Dylem fod yn falch o’u rol yn helpu i ddiogelu’r Deyrnas Unedig, ac rydw i wrth fy modd fy mod yn gallu cefnogi lansio TA LIVE heddiw.”
NODIADAU I OLYGYDDION
- Er mwyn cefnogi’r lansiad, bydd Amgueddfa Firing Line yng Nghastell Caerdydd yn lansio arddangosfa am alluoedd y TA modern. Bydd arddangosfeydd hefyd yn cael eu cynnal yng nghanol dinas Caerdydd a bydd sgriniau plasma mawr yn darlledu ymgyrch hysbysebu arloesol newydd y TA.
- Mae’r TA yn cynnig amrywiaeth eang o yrfaoedd i filwyr a swyddogion, gyda dros 200 o rolau gwahanol ar gael. Bydd yn cynyddu mewn maint i 30,000 erbyn 2018. Mae bron 500 o unedau ac is-unedau’r TA i gael ledled y wlad, a gall unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn ymuno.