Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Mae’n ‘Bwysig’ ein bod yn anrhydeddu'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf drosom yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Heddiw, ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, ei chefnogaeth i gynlluniau i anrhydeddu’r rheiny a dderbyniodd Croes Victoria fel rhan o'r cynigion ar gyfer y digwyddiadau cofio a gynhelir i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
First World War Cemetary

First World War Cemetary

Mewn cyhoeddiad gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG), nodwyd cynlluniau’r Llywodraeth i adfer cofebion rhyfel ledled y DU. Bydd y cynlluniau hyn yn anrhydeddu’r rhai a dderbyniodd Croes Victoria drwy osod cerrig palmant yn eu trefi genedigol.

Yng Nghymru, bydd yr Eisteddfod – a gynhelir yn Llanelli y flwyddyn nesaf - yn cynnal digwyddiadau sydd â thema Canmlwyddiant, gan wahodd pobl o bob rhan o’r wlad i chwarae eu rhan yn y digwyddiadau coffáu.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Newidiodd y Rhyfel Byd Cyntaf y Deyrnas Unedig yn barhaol, ac mae’n elfen bwysig o’n hanes. Mae’n bwysig ein bod yn anrhydeddu mewn modd priodol y rheiny a wnaeth yr aberth eithaf wrth ymladd dros eu gwlad.

Croes Victoria yw’r anrhydedd uchaf y gellir ei roi am ddewrder ‘yn wyneb y gelyn’ yn ystod y gwrthdaro. Felly, rwyf yn falch bod y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y gall pobl o bob rhan o’r DU gefnogi a chyfrannu at y cerrig palmant coffaol gyda’i gilydd.

Yma yng Nghymru, bydd un o’n hachlysuron diwylliannol pwysicaf, sef yr Eisteddfod, yn chwarae rhan allweddol yn ein digwyddiadau cenedlaethol i goffáu Canmlwyddiant y rhyfel trasig hwn.

Nodyn i Olygyddion:

*I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad a wnaed heddiw, edrychwch ar wefan DCMS yma link text

*Mae Eric Pickles, yr Ysgrifennydd Cymunedau, wedi cyhoeddi cystadleuaeth genedlaethol i ddylunio cerrig palmant sydd wedi cael eu comisiynu’n arbennig ac a gaiff eu cyflwyno i gynghorau yn ardaloedd genedigol y rheiny a dderbyniodd Croes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

*Ar gyfer unrhyw Ymholiadau gan y Wasg am enillwyr Croes Victoria a Chynllun Prentisiaeth y Canmlwyddiant, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg yn y DCLG ar 0303 444 1201

*Grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF)

Mae’r grantiau a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys y grant cyntaf i gael ei ddyfarnu dan y cynllun Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, sef rhaglen grantiau bach gwerth £6miliwn Cronfa Dreftadaeth y Loteri a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth fis Hydref diwethaf sydd â’r nod o helpu cymunedau i archwilio, gwarchod a rhannu eu treftadaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd ar 4 August 2013