Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Band eang cyflymder uchel yn ‘allweddol’ i lewyrch economi Cymru

O fragdy bychan teuluol yng Nghasnewydd i gwmni digwyddiadau arddangos yng Nghas-gwent, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb (18 Hydref…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

O fragdy bychan teuluol yng Nghasnewydd i gwmni digwyddiadau arddangos yng Nghas-gwent, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Stephen Crabb (18 Hydref) yn gweld heddiw sut mae sicrhau mynediad i fand eang cyflymder uchel yn chwyldroi busnesau Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi bron i £57 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu gwella band eang yng Nghymru. Rhoddwyd y dasg i Lywodraeth Cymru o sicrhau arian cyfatebol i’r buddsoddiad a chyhoeddwyd ym mis Gorffennaf fod BT wedi ennill cytundeb i helpu mynd a band eang i 96 y cant o gartrefi a busnesau yng Nghymru.

Heddiw fe fydd Mr Crabb yn ymweld a chwmniau yn St Hilari ym Mro Morgannwg, Casnewydd a Chas-gwent sy’n dangos y manteision economaidd real o gael mynediad i fand eang cyflymder uchel. 

Dywed Mr Crabb:

“Mae gwella seilwaith cyfathrebu Cymru yn hanfodol er mwyn i’r economi dyfu a chystadlu’n fyd-eang. 

“Byddai cael mynediad i fand eang hynod gyflym yn rhoi cyfle i fusnesau gynyddu a datblygu marchnadoedd newydd, gan greu’r swyddi sydd eu hangen arnon ni. Bydd hefyd yn galluogi cymunedau gwledig yng Nghymru i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus yn gyflymach ac yn fwy effeithiol ar-lein.

“Mae’r arian sydd wedi’i fuddsoddi mewn band eang yn dangos yn glir fod Llywodraethau’r DU a Chymru yn gweithio gyda’i gilydd ac yn gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau fod gan Gymru rwydwaith band eang addas i’r oes ddigidol.”

Yn gyntaf, fe fydd Mr Crabb yn cyfarfod Cyfarwyddwr BT yng Nghymru, Ann Beynon, i drafod cynlluniau’r cwmni ar gyfer cyflwyno’r band eang. 

Yna fe fydd Mr Crabb yn mynd ar ymweliad a St Hilari ym Mro Morgannwg gyda Simon Mawer, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni darparu gwasanaethau rhyngrwyd, Konek-T o Gaerffili. Mae’r cwmni wedi lansio ei wasanaeth cyntaf yn y Fro, gan ddarparu cyflymder band eang o hyd at 20mg yr eiliad.  

Fe fyddant yn ymweld a pherchnogion y dafarn leol, y Bush Inn, a fydd yn egluro sut maent yn elwa o wasanaeth newydd Konek-T.

Yna fe fydd Mr Crabb yn teithio i Gasnewydd lle bydd yn ymweld a chwmni ‘Tiny Rebel Brewery’ - bragdy bychan teuluol sy’n honni bod cael mynediad i fand eang cyflymder uchel yn brif reswm dros eu llwyddiant.

Bydd Mr Crabb yn cael cwmni Giles Phelps, Rheolwr Gyfarwyddwr Spectrum Internet o Gaerdydd a roddodd y mynediad band eang i’r bragdy. Mae’r datblygiad wedi arwain at gynyddu marchnadoedd y cwmni, recriwtio mwy o staff ac adleoli i adeiladau mwy. 

Yn olaf, fe fydd Mr Crabb yn ymweld ag On Screen Productions yng Nghas-gwent ac yn clywed gan ei gyfarwyddwr, Richard Cobourne, sut mae gwelliannau a wnaed i’w fynediad i fand eang wedi helpu’r cwmni i dyfu ac ehangu i farchnadoedd dramor.  

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn creu nifer o ddinasoedd cysylltiad uwch, er mwyn eu galluogi i gystadlu gyda phrif ddinasoedd digidol y byd a denu buddsoddiad a swyddi newydd.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, yn ddiweddar y bydd Caerdydd yn derbyn £11.9m o arian dinas cysylltiad uwch a gobeithir y bydd cynigion gan Gasnewydd ac Abertawe yn yr ail rownd yn arwain at fwy o arian i Gymru.

Ychwanegodd Mr Crabb:

“Rwyf yn falch o glywed sut y bydd gwelliannau i ddarparu band eang yn cael effaith gwirioneddol ar gynhyrchiant busnes yng Nghymru. Mae band eang yn hanfodol - nid yn unig ar gyfer cysylltu cymunedau - ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd Cymru i’r dyfodol ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu hynny.

“Fis diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant fod bwriad gan Lywodraeth y DU i weithredu pecyn o fesurau i helpu cyflwyno band eang yn y DU yn gyflym, yn ogystal a gweithredu proses gynllunio hylaw. Er mai dim ond yn Lloegr y bydd y cynigion hyn yn berthnasol, rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu a ellir cyflwyno gwelliannau tebyg yng Nghymru. 

 ”Mae’r ddwy lywodraeth yn rhannu’r uchelgais o gael y seilwaith band eang gorau yn Ewrop. Bydd cael y prosesau mewn lle i wneud gosod y seilwaith band eang yn haws ac yn gyflymach yn mynd peth o’r ffordd tuag at ein helpu i gyflawni’r amcan. Rwyf yn awyddus i weld fy ymweliadau heddiw yn tynnu sylw at yr hyn y gall band eang cyflymder uwch ei gyfrannu i’n heconomi yn y dyfodol. “

Cyhoeddwyd ar 18 October 2012