Gweinidog Swyddfa Cymru yn cymeradwyo Asiantaethau Achub yr MV ym Mae Colwyn
Heddiw, bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones AS yng nghyfarfod y Rheolaeth Aur ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, i gyfarfod …
Heddiw, bu Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones AS yng nghyfarfod y Rheolaeth Aur ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, i gyfarfod aelodau’r tim amlasiantaeth a fu’n rhan o’r gwaith o glirio llanastr y llong nwyddau, MV Carrier, a darodd y creigiau yn Llanddulas ar 3 Ebrill 2012.
Roedd dau fad achub a hofrenyddion y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol yn rhan o’r ymgyrch i achub saith aelod o’r criw, o Wlad Pwyl, ar ol i’r llong nwyddau fynd yn sownd yn Llanddulas. Llai na chwe wythnos yn ddiweddarach, mae safle’r llong ddrylliedig bron a chael ei glirio’n gyfan gwbl.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd David Jones AS:
“Fe es i i ddiolch i’r gwasanaethau a’r asiantaethau a fu’n rhan o’r gwaith clirio. Roedd yn llwyddiant mawr - llwyddwyd i osgoi niwed amgylcheddol a sicrhau cyn lleied o darfu a phosib.
“Roedd yn bwysig bod pawb a fu’n rhan o’r ymarfer yn gwybod cymaint y mae’r Llywodraeth yn gwerthfawrogi eu hymdrechion. Roeddwn yn falch iawn cyfarfod a nhw, a chael diolch iddyn nhw am eu holl waith caled.”