Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae’r Fargen Werdd yn fanteisiol i ddefnyddwyr a busnesau”
Heddiw, bydd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Academi Hyfforddi Nwy Prydain yn Nhredegar i gyfarfod â hyfforddeion Nwy Prydain a fydd yn gweithio fel aseswyr y Fargen Werdd.

Wales Office Minister, Stephen Crabb MP visiting the British Gas Training Academy in Tredegar.
Menter newydd Llywodraeth y DU i drawsnewid cartrefi a busnesau Prydain yn adeiladau cynhesach, mwy cost-effeithlon, yw’r Fargen Werdd.
Mae’r cynllun yn rhoi i gartrefi a busnesau ffordd newydd o dalu am welliannau ynni effeithlon, fel insiwleiddio a systemau gwresogi newydd. Mae hefyd yn helpu i ysgogi marchnad sy’n prysur ehangu mewn cynnyrch tai ynni effeithlon, insiwleiddio a hyfforddiant i wella sgiliau er mwyn bodloni’r galw cynyddol.
Heddiw, bydd Mr Crabb yn cyfarfod â rhai o’r bobl hynny sy’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu i fodloni anghenion ynni y DU.
Wrth siarad cyn ei ymweliad ag Academi Hyfforddi Nwy Prydain, dywedodd Mr Crabb:
Mae miloedd o gartrefi ledled Prydain yn gwastraffu ynni ac arian o ganlyniad i ddiffyg effeithlonrwydd ynni, ond mae’r galw am fesurau i wrthwneud hyn yn dal i fod yn isel. Mae’r Fargen Werdd yn rhoi’r cyfle i bobl newid hyn.
A heddiw, byddwn yn gweld nad dim ond defnyddwyr fydd yn elwa. Mae’r Fargen Werdd hefyd yn fanteisiol i’r byd busnes, gan greu marchnad newydd a swyddi newydd.
Mae’n bleser cael y cyfle i gyfarfod â’r bobl ifanc sy’n datblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i chwarae rhan allweddol wrth sicrhau llwyddiant y Fargen Werdd. Bydd y sgiliau y maent yn eu dysgu yn yr Academi hon yn eu helpu i helpu pobl a busnesau i drawsnewid eu heiddo yn adeiladau cynhesach sy’n fwy effeithlon, a’u diogelu rhag biliau ynni sy’n prysur godi.
Ffigurau’r Fargen Werdd
- Mae £125 miliwn ar gael drwy’r Cynllun Arian yn Ôl, a gyllidir gan y Llywodraeth • gallai 8 miliwn o gartrefi elwa o insiwleiddio waliau solet
- gallai 4 miliwn o gartrefi elwa o insiwleiddio waliau ceudod
- disgwylir y bydd 60,000 o swyddi’n cael eu cefnogi yn y sector insiwleiddio yn unig erbyn 2015 - yn codi o 26,000 yn 2011
- £3.5 miliwn o gyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau allweddol y Fargen Werdd
- gellid arbed £270 y flwyddyn petai tŷ pâr â thair ystafell wely yn insiwleiddio waliau solet yn unig
- mae 38% o gyfanswm gollyngiadau nwyon tŷ gwydr y DU yn dod o adeiladau sy’n gollwng
Sut mae’r Fargen Werdd yn gweithio
I ddechrau, bydd un o Aseswyr y Fargen Werdd yn dod i’ch cartref, yn siarad â chi am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio ac yn gweld a allech elwa o wneud gwelliannau ynni effeithlon. Bydd eich Asesydd yn argymell gwelliannau sy’n briodol ar gyfer eich eiddo chi ac yn nodi a oes disgwyl iddynt dalu am eu hunain drwy filiau ynni llai. Yna, bydd Darparwyr y Fargen Werdd yn rhoi dyfynbris ar gyfer y gwelliannau sydd wedi’u hargymell. Gallwch ofyn am gynifer o ddyfynbrisiau ag y dymunwch, a does dim rhaid i chi ddewis yr holl argymhellion a wnaed ar eich cyfer.
Ar ôl i chi ddewis Darparwr, bydd yn creu Cynllun Bargen Werdd. Mae’r cynllun yn gontract rhyngoch chi a’r Darparwr – mae’n nodi’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn ogystal â’r ad-daliadau, gan gynnwys y gyfradd llog sefydlog. Ar ôl i chi gytuno i Gynllun Bargen Werdd, bydd eich Darparwr yn trefnu bod un o Osodwyr y Fargen Werdd yn gwneud y gwelliannau i’ch cartref. Yna, gallwch ddechrau mwynhau cartref mwy ynni effeithlon. Bydd eich ad-daliadau Bargen Werdd yn cael eu hychwanegu’n awtomatig at fil trydan y cartref.
Am ragor o wybodaeth, ewch i [link text] (http://www.gov.uk/greendeal)