Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn “Cysylltu” â thrigolion Blaenafon

Heddiw, dydd Llun 14 Tachwedd, gwelodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, sut mae Melin Homes a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn helpu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, dydd Llun 14 Tachwedd, gwelodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, sut mae Melin Homes a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn helpu cannoedd o bobl i ddychwelyd i fyd gwaith neu hyfforddiant fel rhan o’r prosiect ‘Getting Connected’.

Yn ystod ei ymweliad, fe wnaeth Mr Jones ymweld a’r Ganolfan Ddigidol ym Mlaenafon a chyfarfod a Doiran Jones, y Cadeirydd, Mark Gardner, Prif Weithredwr Melin Homes, Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a thrigolion lleol i glywed sut mae’r prosiect ‘Getting Connected’ yn helpu pobl leol i ddatblygu eu sgiliau digidol. Mae’r prosiect yn cynnwys gosod dros 250 o gyfrifiaduron am ddim yng nghartrefi trigolion, a darparu hyfforddiant digidol.

Ar ei daith o amgylch y Ganolfan Ddigidol, gwelodd Mr Jones yr ystafelloedd hyfforddi digidol a’r cyfleusterau cynadledda sy’n cael eu defnyddio gan fusnesau lleol hefyd.

Yn gynharach yr haf hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai £57 miliwn o gyllid ar gael i wella band eang ledled Cymru. Fe wnaeth Jeremy Hunt, y Gweinidog Diwylliant, gyhoeddi darpariaeth o £47m ychwanegol ar ben y £10m a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fel rhan o ymgyrch y Llywodraeth i sicrhau bod y Deyrnas Unedig gyfan yn meddu ar y rhwydwaith band eang gorau yn Ewrop erbyn 2015. Mae’r Llywodraeth am weld 90 y cant o gartrefi a busnesau ym mhob ardal awdurdod lleol yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn, ac i bawb yn y DU gael mynediad at o leiaf 2Mbps.

Dywedodd Mr Jones, “Roedd hi’n bleser gen i ymweld a’r Ganolfan Ddigidol heddiw, ac i glywed gan bobl leol am y buddion mae’n eu darparu drwy’r prosiect ‘Getting Connected’. Prosiectau lleol fel y rhain sydd wrth galon adeiladu economi gryfach, gan ddarparu cyfleoedd a rhagolygon i bob cwr o’r wlad.”

“Mae ‘Getting Connected’ a’r Ganolfan Ddigidol ar gyfer busnesau yn darparu buddion pendant i’r gymuned leol, sy’n dangos y gall arloesedd, gweithio mewn partneriaeth a deall anghenion pobl gyfrannu llawer at wella bywydau unigolion a busnesau.”

“Mae Melin Homes yn rheoli dros 3,400 o gartrefi yn yr ardal, ac yn darparu ystod o wasanaethau ar gyfer bobl leol gan gynnwys cyngor i drigolion ynghylch dyledion a budd-daliadau, cyfleoedd gwirfoddoli a gwasanaethau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Mae eu mentrau digidol yn rhan ychwanegol nodedig o’r gwasanaethau hyn, a fydd yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad a’r oes ddigidol.”

Yn ol Mark Gardner, y Prif Weithredwr, “Mae’r Ganolfan Ddigidol yn adeilad anhygoel sy’n arwain y ffordd o ran esblygiad digidol yn Nhorfaen, ac mae’r bartneriaeth rhwng Melin Homes a’r Awdurdod Lleol yn dangos y gall gweithio gyda’n gilydd gyflawni canlyniadau go iawn, a’r rheini’n barhaol.”

Cyhoeddwyd ar 14 November 2011