Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn annog cwmnïau teledu Cymru i fidio am drwyddedau teledu lleol

Gan fod Abertawe a Chaerdydd yn y ras i fidio am drwyddedau teledu i ganiatau iddynt lansio eu gorsafoedd eu hunain, mae Gweinidog Swyddfa Cymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Gan fod Abertawe a Chaerdydd yn y ras i fidio am drwyddedau teledu i ganiatau iddynt lansio eu gorsafoedd eu hunain, mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi annog cwmniau cynhyrchu o Gymru i wneud bid heddiw.

Meddai Mr Jones:

“Mae Ofcom nawr yn gwahodd cwmniau i gyflwyno eu bidiau i helpu i lunio’r genhedlaeth nesaf ym maes rhaglenni cymunedol yng Nghymru. Gydag Abertawe a Chaerdydd yn yr haen gyntaf o rwydweithiau sydd wedi ennill eu plwyf, rwy’n gwybod bod gennym ni nifer o ymgeiswyr cymwys. Mae’r cyfryngau yn faes cadarn a chystadleuol yma yng Nghymru, a bydd teledu lleol yn gwneud yn siŵr bod yr awydd am raglenni lleol a chymunedol yn cael ei bodloni mewn ffordd gynaliadwy, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.” 

Mae gan weithredwyr posibl tan 13 Awst i wneud cais am drwydded gan Ofcom. Bydd Ofcom yn dyfarnu’r drwydded yn seiliedig ar gyfres o feini prawf, gan gynnwys: darparu newyddion lleol a materion cyfoes; cynigion ar gyfer rhaglenni; dyddiad lansio sydd wedi’i nodi; a pha mor ymarferol yw’r cynllun busnes. Dewisodd Ofcom y 21 ardal gyntaf am fod yno ddigon o ddiddordeb gan ddarpar weithredwyr ac am fod ganddynt y gallu technegol i dderbyn gwasanaeth teledu lleol.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2012