Gweinidog Swyddfa Cymru yn dechrau ar gyfres o ymweliadau twf a chyflogaeth yn Ne Cymru
Bydd Stephen Crabb, un o Weinidogion Swyddfa Cymru yn dechrau heddiw [13 Mehefin] ar gyfres o ymweliadau â darparwyr y Rhaglen Waith a Chanolfannau Gwaith yn ardal De Cymru yn sgil cyhoeddi'r ffigurau diweithdra diweddaraf ddoe.
Stephen Crabb with Shaw Trust Head of Operations, Tracy Conwy, Merthyr Institute for Blind CEO, Richard Welfoot and Petra Kennedy, Training Manager
Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 10,000 dros y chwarter olaf a bod 32,000 o bobl ychwanegol yn gweithio o gymharu â’r adeg hon y llynedd.
Yn y Ganolfan Waith yn Aberdâr, bydd y Gweinidog yn cwrdd â swyddogion a fydd yn rhoi cyflwyniad ar y gwasanaeth cwsmeriaid wedi’i deilwra a ddarperir ganddynt. Yna bydd sesiwn grŵp lle bydd yn clywed sut mae’r rhaglenni Wage Incentive a Universal Jobmatch yn cynorthwyo’r gymuned leol.
Ar ôl ymweld â’r Ganolfan Waith, bydd y Gweinidog yn teithio i Ferthyr Tudful lle bydd yn clywed sut mae Sefydliad y Deillion Merthyr yn helpu pobl i feithrin sgiliau a chymryd rheolaeth dros eu dyfodol. Yn olaf, bydd y Gweinidog yn ymweld â Working Links yn Nhreorci lle bydd yn gweld sut mae’r rhaglen Cymorth i Weithwyr yn cynorthwyo pobl yn yr ardal leol a pha anawsterau a wynebir ganddynt.
Dywedodd Stephen Crabb, un o Weinidogion Swyddfa Cymru:
Roeddwn i’n awyddus iawn i ymweld â rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig i weld sut mae darparwyr y Rhaglen Waith a’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynorthwyo’r rheini sydd â’r angen mwyaf.
Roeddwn i am weld cynnydd y Rhaglen Waith yn arbennig a sut mae’r rhaglen yn cael effaith wirioneddol ar gyflogaeth i bobl ledled Cymru.
Dangosodd ffigurau’r farchnad lafur ddoe fod cyflogaeth yng Nghymru’n parhau i gynyddu ond mae llawer y gallwn ei wneud o hyd. Mae’n hollbwysig bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth.
Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i roi cyfleoedd i bobl gyrraedd y farchnad swyddi, cael profiad gwaith a gwybodaeth werthfawr y gallant adeiladu arni, gobeithio, a datblygu gyrfa lwyddiannus yn ei sgil”.