Datganiad i'r wasg

Guto Bebb yn cyflwyno araith ar bwysigrwydd trafnidiaeth yng Nghymru

Cyflwynodd Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb AS un o’r prif areithiau yn seminar Fforwm Polisïau Cymru yng Nghaerdydd.

Cyflwynodd Gweinidog Swyddfa Cymru Guto Bebb AS un o’r prif areithiau yn seminar Fforwm Polisïau Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad yn ystyried ‘Y Dyfodol i Bolisi Trafnidiaeth yng Nghymru’. Trafododd Mr Bebb themâu’n ymwneud â buddsoddiad presennol Llywodraeth y DU yn y rheilffyrdd, pwysigrwydd y prif lwybrau yn ne a gogledd Cymru a beth yw dyfodol trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae’n hanfodol darparu seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain os ydym i ddatblygu cryfderau ein gwlad ac ysgogi twf economaidd.

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i wella profiad defnyddwyr a chymudwyr ledled Cymru.

Mae Cymru yn agored i fusnes ac mae cysylltiadau trafnidiaeth yn hollbwysig er mwyn inni allu parhau i ffynnu.

Cyhoeddwyd ar 16 September 2016