Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn llongyfarch Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ar gael ei dewis ar gyfer treial arloesol

Heddiw, mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad y bydd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru yn chwarae ei rhan wrth dreialu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad y bydd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru yn chwarae ei rhan wrth dreialu dull arloesol o reoli troseddwyr sy’n bwrw dedfrydau cymunedol.

Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Prawf Swydd Stafford a Gorllewin Canolbarth Lloegr, wedi cael ei dewis i dreialu’r rhaglen, a’r bwriad yw lleihau cyfraddau aildroseddu yn y DU. Mae’r dull yn cael ei weithredu fel rhan o raglen flaenllaw Talu yn ol Canlyniadau Llywodraeth y DU.

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n falch iawn bod Ymddiriedolaeth Prawf Cymru wedi cael ei dewis i fwrw rhaglen mor bwysig yn ei blaen.

“Mae ganddynt bellach gyfle unigryw i chwarae rhan bwysig wrth ail-lunio’r system cyfiawnder troseddol. Drwy feithrin perthynas hir a pharhaol gyda’n partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gallwn ffrwyno’r brwdfrydedd a’r syniadau cyffrous sydd ganddynt i’n helpu i leihau cyfraddau ail-droseddu y rheini sy’n bwrw dedfryd gymunedol, a hynny’n sylweddol.”

Bydd yr Ymddiriedolaethau’n meithrin partneriaethau gyda’r sectorau preifat a gwirfoddol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ledled eu cymunedau ar gyfer hyd at 2000 o droseddwyr. Byddant yn gweithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) i bennu manylion terfynol eu dull.

Bydd y cynlluniau peilot pedair blynedd, a fydd yn dechrau yn 2013, yn caniatau i’r llywodraeth brofi sut gall y darparwyr sector cyhoeddus presennol ddefnyddio’r dull Talu yn ol Canlyniadau, gyda’r bwriad y bydd pob darparwr yn dilyn egwyddorion Talu yn ol Canlyniadau erbyn 2015.

Bydd y cynlluniau peilot yn profi model trosglwyddo risg newydd, lle bydd yr Ymddiriedolaethau yn ffurfio partneriaeth fasnachol arloesol gyda darparwr allanol er mwyn darparu gwasanaethau. Bydd y sefydliad darparu newydd hwn yn cael ei wobrwyo os bydd yn llwyddo i leihau lefelau aildroseddu, ac os na fydd yn cyrraedd ei dargedau, bydd yn ysgwyddo’r risg o beidio a chael ei dalu.

Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau, bydd y cynlluniau yn annog darparwyr i dargedu eu hymdrechion lle gallant gyflawni’r llwyddiant mwyaf, ac yn annog disgresiwn proffesiynol wrth reoli troseddwyr.

Cyhoeddwyd ar 25 January 2012