Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn galw am allforio mwy o raglenni Cymraeg i hybu'r economi

Heddiw, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn galw ar ddarlledwyr o ar draws y DU a’r byd i brynu mwy o raglenni Cymraeg a rhoi hwb i’r ardal allweddol hon o'n heconomi.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y Gweinidog yn cynnal uwchgynhadledd ddarlledu yn y Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd, gan ddod â darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni annibynnol o Gymru a’r DU at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y rhaglenni o Gymru ar y teledu.

Bydd yn annog gwneuthurwyr rhaglenni i arddangos ansawdd cynyrchiadau annibynnol yng Nghymru a gofyn i ddarlledwyr egluro sut y maent yn comisiynu gwaith ac esbonio sut i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu rhaglenni - megis Y Gwyll/Hinterland, The Indian Doctor a Frozen at Christmas - sydd wedi cael effaith ar draws y DU a’r byd.

Mae’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant byd-eang ac yn sbarduno twf. Mae’n cyflogi dros 50,000 o bobl ac yn creu trosiant blynyddol o dros £1 biliwn.

Bydd yr uwchgynhadledd yn adeiladu ar y mesurau mae Llywodraeth y DU eisoes wedi’u cymryd i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiadau treth ar gyfer animeiddio, rhai rhaglenni teledu a gemau fideo o’r DU, yn ogystal â chefnogaeth i’r diwydiant ffilm yng Nghymru mewn marchnadoedd tramor drwy glustnodi contractau, tendrau a phrosiectau priodol.

Dywedodd Alun Cairns

Mae cwmnïau teledu Cymru yn cynhyrchu rhai o’r rhaglenni mwyaf cyffrous yn y DU ar hyn o bryd ac mae gan y sector botensial enfawr i dyfu.

Mae rhaglenni fel Y Gwyll a The Indian Doctor eisoes wedi dangos ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig, ond rwyf am enahgu’r posibiliadau o gomisiynau rhyngwladol ac ar draws y DU i rhagor o wneuthurwyr rhaglenni Cymru. Mae angen i ni fod yn uchelgeisio.

Bydd uwchgynhadledd heddiw yn helpu cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ffynnu drwy sicrhau eu bod yn cael eu cysylltu â’r marchnadoedd ehangaf posibl. Mae pob rhan o’n cynllun economaidd tymor hir i ailgydbwyso’r economi ac ysgogi twf ym mhob sector a phob rhan o Gymru.

Cyhoeddwyd ar 10 March 2015