Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru’n bresennol ym mherfformiad cyntaf y byd o ‘Beirdd Cymru’

Heddiw, bydd Gweinidog y Swyddfa Gymreig David Jones yn cynrychioli Llywodraeth Prydain yn y perfformiad cyntaf yn y byd o waith cerddorol newydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bydd Gweinidog y Swyddfa Gymreig David Jones yn cynrychioli Llywodraeth Prydain yn y perfformiad cyntaf yn y byd o waith cerddorol newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins yn seiliedig ar y gerdd Hwngaraidd enwog ‘Beirdd Cymru’.

Caiff cantata Karl Jenkins - cyfansoddiad i leisiau gyda chyfeiliant cerddorol - ei pherfformiad cyntaf yn Bwdapest heno, ac mae yn seiliedig ar gerdd gan y bardd Hwngaraidd Janos Arony. Mae’r gerdd yn adrodd stori chwedlonol lladd 500 o feirdd Cymru gan y brenin Edward I. Yn y perfformiad bydd Mr Jones yn cyflwyno neges gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a bydd yn derbyn argraffiad gwerthfawr o’r gerdd a gynhyrchwyd yn 1896, ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ystod ei ymweliad a Hwngari, bydd Mr Jones hefyd yn cwrdd ag aelodau’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Budapest a chynrychiolwyr o dim UKTi yn y Llysgenhadaeth i drafod cysylltiadau a phosibiliadau masnachol rhwng y ddwy wlad. Ar hyn o bryd Hwngari sy’n dal Llywyddiaeth yr UE.

Dywedodd Mr Jones: “Mae gan Gymru a Hwngari gysylltiadau masnachol a diwylliannol cryf eisoes, a thynnir sylw at hyn yn y gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins yn seiliedig ar y gerdd Beirdd Cymru. Mae pob plentyn ysgol yn Hwngari’n gyfarwydd a’r gerdd, gan y caiff ei dysgu fel rhan o gwricwlwm cenedlaethol y wlad.

“Mae’r Llywodraeth hon yn ystyried bod allforion yn allweddol i dwf economaidd ac rydym eisiau annog busnesau o bob maint i gymryd mantais ar farchnadoedd gwerthfawr dramor. Edrychaf ymlaen at gyfarfod y Siambr Fasnach Brydeinig yn Budapest i weld beth mwy y gallwn ei wneud i gryfhau’r cysylltiadau masnachol rhwng Cymru a Hwngari.”

Cyhoeddwyd ar 21 June 2011