Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymuno yn nathliadau Ymddiriedolaeth y Tywysog

Heddiw (30 Mawrth 2012), roedd Gweinidog Swyddfa Cymru wrth law i longyfarch pobl ifanc Conwy a Sir Ddinbych sydd wedi llwyddo i gwblhau cynllun…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (30 Mawrth 2012), roedd Gweinidog Swyddfa Cymru wrth law i longyfarch pobl ifanc Conwy a Sir Ddinbych sydd wedi llwyddo i gwblhau cynllun Ymddiriedolaeth y Tywysog sydd wedi’i gynllunio i roi sgiliau a phrofiad o’r diwydiant peirianneg mecanyddol iddynt.

Gweithdy Cerbyd Modur Hyfforddiant Gogledd Cymru ym Mae Colwyn oedd yn cynnal y dathliadau ar gyfer y rheini a oedd wedi graddio o raglen ‘Get into Cars’ yr elusen ieuenctid, sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc sy’n barod am waith, ond nad ydynt yn meddu ar y sgiliau galwedigaethol, i ddatblygu’r profiad neu’r sgiliau galwedigaethol perthnasol i’w galluogi hwy i symud i swydd gynaliadwy mewn sector gwaith penodol.  

Cwblhaodd y cyfranogwyr dasgau cynnal a chadw ceir sylfaenol dros gyfnod o bum mlynedd, er enghraifft newid olew a hidlydd, yn ogystal a dysgu am systemau’r injan a’r ecsost, i ennill tystysgrif City & Guilds mewn Cynnal a Chadw Sylfaenol ar Geir. Hefyd, roeddynt wedi dysgu am bwysigrwydd arferion iechyd a diogelwch da yn y garej.

Mae ‘Get into Cars’ wedi cael ei ddarparu i bobl ifanc o Sir Ddinbych a Chonwy mewn partneriaeth a Hyfforddiant Gogledd Cymru, gyda chymorth ariannol gan ESF Engagement Gateway. Mae dwy o’r rhaglenni hyn wedi cael eu darparu yng Nghymru hyd yn hyn.

Cyfarfu’r Gweinidog a Kate Sullivan, Pennaeth y Bartneriaeth Sector Cyhoeddus a Rhian Mathias, Rheolwr y Rhaglen ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog, cyn gweld arddangosiadau gan grwpiau a chyflwyniad byr. Yna, cafodd y dasg o gyflwyno tystysgrifau i wyth o bobl ifanc i’w llongyfarch am gymryd rhan yn y Rhaglen ‘Get Into Cars’.

Wrth siarad ar ol y digwyddiad, dywedodd Mr Jones:

“Mae wedi bod yn galonogol iawn cyfarfod y bobl ifanc hyn heddiw, a gweld a chlywed am y buddion y maent wedi eu cael o’r rhaglen ‘Get into Cars’.

“Mae gwaith Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn amhrisiadwy pan ddaw i helpu pobl ifanc i ailymrwymo mewn dysgu, a rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gael cychwyn da pan ddaw i fynd i fyd gwaith.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r elusen ieuenctid, Ymddiriedolaeth y Tywysog, yn helpu i newid bywydau ieuenctid. Mae’n rhoi cymorth ymarferol ac ariannol iddynt er mwyn datblygu sgiliau allweddol ar gyfer y gweithle, fel hyder a chymhelliant. Mae’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 13 a 30 oed, sydd wedi cael trafferthion yn yr ysgol, sydd wedi bod mewn gofal, sy’n ddi-waith yn y tymor hir, neu sydd wedi bod mewn helbul gyda’r gyfraith. Mae elusen Tywysog Cymru wedi helpu dros 650,000 o bobl ifanc er 1976 ac mae’n rhoi cymorth i 100 yn rhagor bob diwrnod. Y llynedd, symudodd dros dri allan o bedwar o bobl ifanc a gafodd gymorth gan yr Ymddiriedolaeth i waith, addysg neu hyfforddiant. Ym mis Ebrill 2011, daeth Fairbridge yn rhan o Ymddiriedolaeth y Tywysog. Bydd y mudiad unedig newydd yn helpu 50,000 o bobl ifanc eleni.
  • Mae’r rhaglen ‘Get into’ yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n barod am waith, ond nad oes ganddynt y sgiliau galwedigaethol, i ddatblygu’r sgiliau a/neu’r profiad galwedigaethol perthnasol i’w galluogi hwy i symud i swydd gynaliadwy mewn sector gwaith penodol.
Cyhoeddwyd ar 30 March 2012