Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn croesawu adroddiad Tech Nation
Alun Cairns: "Mae adroddiad Tech Nation yn cydnabod arwyddocâd y sector yng Nghymru yn ogystal â’r amrywiaeth eang o sgiliau ac arbenigeddau sy'n gwneud Cymru yn Genedl Dechnolegol o ddifrif”
Mewn ymateb i Adroddiad Tech Nation 2016 - yr asesiad a’r canllaw diffiniol ar gyfer TG yn y Deyrnas Unedig, dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Am yr ail flwyddyn yn olynol, cydnabuwyd de Cymru fel un o glystyrau technolegol mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig.
Mae’r sector digidol wedi dod yn rhan annatod o economi Cymru, ac mae twf cyflym nifer o fusnesau digidol ar draws y wlad wedi cadarnhau ein sefyllfa fel canolbwynt rhagoriaeth dechnolegol.
Mae cefnogi ein cwmnïau technoleg yn rhan allweddol o’n cynllun ar gyfer twf - creu swyddi ar draws Cymru a meithrin economi fwy gwydn.
Heddiw mae adroddiad Tech Nation yn cydnabod arwyddocâd y sector yng Nghymru yn ogystal â’r amrywiaeth eang o sgiliau ac arbenigeddau sy’n gwneud Cymru yn Genedl Dechnolegol.