Swyddfa Cymru yn cefnogi ymgyrch ‘Feeding Britain’s Future’
Mae gweinidogion Swyddfa Cymru yn dangos eu cefnogaeth i ymgyrch y diwydiant bwyd a nwyddau – ymgyrch sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl ifanc ddi-waith i gamu ar yr ysgol yrfa.
Fel rhan o ‘Feeding Britain’s Future – Mis Sgiliau Gwaith’, mae’r Sefydliad Dosbarthu Nwyddau (IGD) wedi ffurfio partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith i annog ffermydd, ffatrïoedd a siopau mawr i agor eu drysau led y pen a rhoi hyfforddiant sgiliau am ddim i bobl ifanc 16-25 oed sy’n ddi-waith.
Er mwyn ceisio ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a nwyddau, bydd y rheini fydd yn cymryd rhan yn cael cyfle i gael hyfforddiant ar dechnegau cyfweliad ac ysgrifennu CV, ac i gael taith y tu ôl i’r llenni i gael gweld pa fath o swyddi sydd ar gael yn y sector.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
Nid am fis yn unig rydym ni’n cefnogi cynlluniau fel Feeding Britain’s Future. Mae’r Llywodraeth hon, drwy’r Contract Ieuenctid a’r Rhaglen Waith, yn dangos ei bod wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod cefnogaeth ar gael i helpu pobl ifanc i roi troed gadarn ar yr ysgol yrfa.
Ond mae angen i fusnesau lleol ddal ati i gefnogi’r cynlluniau hyn hefyd– cyflogwyr a fydd yn buddsoddi mewn hyfforddiant, yn rhoi profiad gwaith i rywun, neu’n cyflogi unigolyn ifanc.
Llwyddodd Uwchgynadleddau Swyddi diweddar Swyddfa Cymru, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ac yn Wrecsam, i ddod â busnesau, sefydliadau cyflogadwyedd a phobl ifanc at ei gilydd i wneud yr union beth hwnnw, sef trafod sut i gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, interniaethau a phrentisiaethau i bobl ifanc.
Mae’n wych gweld cyflogwyr yn agor eu drysau i bobl ifanc ac yn rhoi iddynt y sgiliau cyflogadwyedd hollbwysig y mae eu hangen arnynt i gael gwaith.
Bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn cefnogi prosiectau pan fydd yn ymweld â de Cymru i fynychu diwrnod o ddathlu ar gyfer y bobl ifanc sydd wedi cwblhau eu rhaglen Feeding Britain’s Future yn siop Marks & Spencer yng nghanol dinas Caerdydd (3 Hydref).
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae Feeding Britain’s Future yn adlewyrchu’n berffaith ymdrechion y llywodraeth i ostwng lefelau diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Mae’r ffigurau diweithdra diweddaraf yn dangos bod nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd wedi gostwng 4,400 o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd. Serch hynny, mae’r ffigurau’n dal yn rhy uchel.
Mae angen i ni gefnogi busnesau fel y rheini sy’n rhan o’r ymgyrch hon er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc – cyfle yr oedd cenedlaethau blaenorol yn ei gymryd yn ganiataol. Drwy wneud hyn gallwn ddangos i gyflogwyr eraill – mawr a bach – y bydd buddsoddi mewn pobl ifanc yn dda i fusnes.
Drwy gydol mis Medi, bydd mwy na 190 o fusnesau’n cymryd rhan mewn 1,200 o leoliadau ym mhob rhan o’r DU. Bydd yr ymgyrch yn ei chyfanrwydd yn cynnig 15,000 o gyfleoedd hyfforddiant sgiliau, er enghraifft gweithdai sgiliau cyfweliad a sgiliau llunio CV, i bobl ifanc ledled y DU.
Dywedodd Joanne Denney-Finch OBE, Prif Weithredwr IGD:
Nod Feeding Britain’s Future yw helpu pobl ifanc i ddeall rheolau’r gêm. Drwy gynnig hyfforddiant gwerthfawr mewn meysydd fel ysgrifennu CV a sgiliau i’w defnyddio mewn cyfweliad, rydym am godi eu hyder er mwyn iddynt allu cystadlu yn y farchnad swyddi.
Bydd pobl ifanc fydd yn ymuno â ni ym mis Medi yn gallu clywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr yn y diwydiant beth sy’n gwneud ymgeiswyr llwyddiannus yn wahanol i bawb arall, a sut gallant hwythau werthu eu hunain.
Mae gennym lawer iawn i’w gynnig, gan gyflogi 3.7 miliwn o bobl mewn amrywiaeth eang o swyddi, fel gwyddonwyr bwyd a pheirianwyr, heb sôn am y bobl bwysig sy’n ennill y frwydr ar y rheng flaen i gynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid yn y siopau. Yn ein diwydiant ni, mae pobl wir yn gallu datblygu, a symud o’r siop neu’r ffatri i ben uchaf y busnes.
NODIADAU I OLYGYDDION
*Mae rhai o siopau a gweithgynhyrchwyr mwyaf y DU yn rhan o hyn, gan gynnwys Asda, The Co-operative, Dairy Crest, Greencore, Mars, Mondelez, Morrisons, Nestle, NFU, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose.
*I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch ‘Feeding Britain’s Future’, cysylltwch â Jenny Craig – jenny.craig@portland-communications.com / 0207 842 0159
IGD
IGD yw’r brif ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth ac arferion gorau yn y diwydiant nwyddau defnyddwyr ar hyd a lled y byd. Ei nod yw defnyddio gwybodaeth i symbylu gweithgareddau cadarnhaol. Mae IGD yn cynnig dealltwriaeth a gweledigaeth heb eu tebyg, sy’n deillio o raglenni ymchwil helaeth ar faterion busnes byd eang, ynghyd â thrafodaethau parhaus â siopwyr.