Datganiad i'r wasg

Tim rygbi Cymru yn dangos ei cefnogaeth am y Lluoedd Arfog

Cymru yn paratoi ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog ymhen pythefnos

Armed Forces Day

Armed Forces Say 2017

Gyda dim ond 14 diwrnod i fynd, mae trefi a dinasoedd ledled Cymru yn paratoi i ymgynnull i ddangos eu gwerthfawrogiad o Luoedd Arfog y DU.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddiolch i gymuned gyfan y Lluoedd Arfog am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud; Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr, Milwyr Parhaol a Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid a chyn-filwyr.

Sefydlwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog naw mlynedd yn ôl, sef y diwrnod cenedlaethol sy’n anrhydeddu gwaith y Lluoedd Arfog. O frwydro yn erbyn Daesh yn y Dwyrain Canol, i warchod yr awyr a’r môr yn y DU, bydd Lluoedd Arfog y DU yn cael eu saliwtio yn y nifer fwyaf erioed o ddigwyddiadau ledled y DU ac yn y Digwyddiad Cenedlaethol, fydd yn cael ei gynnal yn Lerpwl eleni.

Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, gwelwyd Milwyr o Gymru sy’n gwirioni ar rygbi yn cwrdd ag aelodau o Garfan Undeb Rygbi Cymru cyn eu gemau yn erbyn Tonga a Samoa. Ymunodd chwaraewyr adnabyddus fel Alex Cuthbert â chynrychiolwyr o’r Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol i annog pobl i fynd allan a mwynhau digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn achlysur arbennig pan fyddwn yn dod at ein gilydd i gydnabod ymroddiad y rheini sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau diogelwch ein gwlad.

Mae’r rhain yn ddynion a merched eithriadol sy’n peryglu eu bywydau gartref a thramor i amddiffyn ein ffordd o fyw. Mae’r rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau sydd wedi’i threfnu ledled y wlad yn gyfle gwych i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i’r rheini sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn brwydrau. Gobeithio y gwelwn ni filoedd o bobl o bob cwr o Gymru yn ymuno â’r dathliadau”.

Dyma ddywedodd Pennaeth Staff y Weinyddiaeth Amddiffyn, Syr Stuart Peach am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog:

Rydw i wrth fy modd yn gweld pobl ledled y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae’r diwrnod yn gyfle i bobl ddiolch i’r dynion a’r merched eithriadol, sydd wedi’u lleoli ar draws y byd, sy’n ymroi eu bywydau i amddiffyn eu gwlad a chadw pobl Prydain yn ddiogel”.

Mae Lluoedd Arfog y DU ar hyn o bryd yn ymwneud â mwy nag 20 o Ymgyrchoedd mewn mwy na 25 o wledydd, o Dde Swdan i Irac. Ond bydd llawer o’r rheini gartref yn bresennol mewn digwyddiadau ledled y wlad.

Yn ogystal â hyn, bydd llawer o gyn-filwyr yn bresennol, pobl sy’n rhan o’r gymuned o oddeutu 2.56 miliwn o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n byw yn y DU. Bydd Cadetiaid ifanc yn bresennol hefyd; gyda’i gilydd mae gan gadetiaid y Môr, y Fyddin a’r Awyr bron i 100,000 o aelodau, a bydd sawl un ohonynt yn bresennol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad.

Nodiadau i Olygyddion:

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, yn cynnwys rhestr lawn o ddigwyddiadau, ar gael ar y wefan yma

Cyhoeddwyd ar 12 June 2017