Datganiad i'r wasg

Gweinidog Cymru'n annog busnesau: "Peidiwch â cholli'r cyfle - cefnogwch Bwerdy'r Gogledd"

Neges Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns, mewn araith heno oedd y dylai busnesau yng Ngogledd Cymru fanteisio ar y cyfle i gefnogi Pwerdy'r Gogledd a "pheidio â chael eu gadael ar ôl".

Wrth siarad gyda’r CBI yng Ngogledd Cymru (Medi 17), dywedodd Alun Cairns bod busnesau Gogledd Cymru mewn “sefyllfa berffaith i chwarae rhan greiddiol ym Mhwerdy’r Gogledd”.

Dywedodd wrth ginio o gynrychiolwyr y CBI yng Ngogledd Cymru:

Dyma gyfle gwych i Ogledd Cymru ac mae’n rhaid i ni ei groesawu gyda breichiau agored.

Does dim diben sefyll ar y cyrion. Rydw i eisiau gweld Gogledd Cymru’n rhan allweddol o’r gweithredu mawr.

Dywedodd Mr Cairns bod agenda Pwerdy’r Gogledd yn ennill momentwm gyda “phwerau arwyddocaol” yn cael eu datganoli i ardaloedd eraill o’r wlad.

Yn ei araith, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru hefyd:

  • Mae Pwerdy’r Gogledd yn gyfle i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng y de a’r gogledd
  • Mae’n hanfodol bod Cymru’n buddsoddi yn ei phobl ifanc neu gallai cwmnïau wynebu problemau recriwtio yn ardaloedd dwyreiniol Gogledd Cymru - “mae cystadleuaeth yn y farchnad waith yn risg. Rydw i eisiau gweld y cystadlu hwnnw rhwng cwmnïau, ac nid gwledydd.”
  • Dylai Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, arweinwyr busnes a chynghorau ddod at ei gilydd gyda “chyfres glir o flaenoriaethau a chynllun gweithredu clir” ar y seilwaith trafnidiaeth.
  • Dylai busnesau anwybyddu’r “tensiynau gwleidyddol” cysylltiedig â Phwerdy’r Gogledd yn ystod y cyfnod sy’n arwain at etholiadau’r Cynulliad.

Dywedodd Mr Cairns:

Mae gennym ddiwydiant cyfoethog sy’n gosod Gogledd Cymru ar y map fel canolbwynt byd-eang i ragoriaeth gweithgynhyrchu.

Mae lleoliad allforio Gogledd Cymru a’i enw da am brosiectau ynni mawr yn gwneud y rhanbarth yn bartner perffaith ar gyfer cydweithredu gwell, er mwyn ehangu economi’r gogledd yn ogystal â sector busnesau bychain deinamig draw ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2015