Datganiad i'r wasg

Mae hi’n ddiwedd blwyddyn pan fu lefelau cyflogaeth uwch nag erioed o’r blaen yng Nghymru

Roedd lefelau cyflogaeth diwedd 2016 yn uwch na'r lefelau ddiwedd 2015.

Image of people working

Roedd lefelau cyflogaeth diwedd 2016 yn uwch na’r lefelau ddiwedd 2015. Yn ystod 2016 gwelodd Gymru lefelau cyflogaeth uwch nag erioed o’r blaen, dros y flwyddyn mae’r lefel wedi codi 39,000, yn ôl ystadegau newydd sydd wedi cael eu rhyddhau heddiw.

Mae’r lefel diweithdra wedi disgyn 21,000 dros y flwyddyn gyda’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau 1,200 yn is; mae hyn yn dal yn is na chyfartaledd y DU.

Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw fel a ganlyn:

  • Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel cyflogaeth 39,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 2.3 pwynt canran. Dros y chwarter, yng Nghymru mae cyflogaeth wedi disgyn 8,000.
  • Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 21,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.4 pwynt canran. Mae cyfradd diweithdra Cymru nawr yn 4.3 y cant sydd 0.5 pwynt canran yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y DU drwyddi draw. Dros y chwarter, mae’r lefel diweithdra wedi codi 2,000 ac mae’r gyfradd wedi codi 0.1 pwynt canran i 4.3 y cant.
  • Roedd nifer yr hawlwyr wedi disgyn 200 rhwng mis Hydref a mis Tachwedd ac wedi disgyn 1,200 dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd yn 2.9 y cant.
  • Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel anweithgarwch economaidd 24,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.2 pwynt canran. Mae anweithgarwch economaidd 2,000 yn uwch dros y chwarter.
  • Dros y flwyddyn, roedd cyfanswm cyflogaeth yn y DU wedi cynyddu 342,000 a’r gyfradd wedi cynyddu 0.5 pwynt canran. Roedd cyfanswm cyflogaeth ar gyfer y DU wedi disgyn 6,000 dros y chwarter.
  • Roedd cyfanswm diweithdra’r DU wedi disgyn 16,000 dros y chwarter i 1.616 miliwn, nid oedd y gyfradd wedi newid ac mae’n dal yn 4.8 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 103,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran. Roedd cyfanswm diweithdra yn y DU wedi disgyn 16,000 dros y chwarter.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hi’n braf gorffen y flwyddyn gyda Chymru wedi gweld lefelau cyflogaeth gwell nag erioed o’r blaen. Mae’r ffigurau heddiw yn brawf o allu Cymru i greu hinsawdd lle mae busnesau’n gallu ffynnu ac yn hyderus ynghylch y cyfleoedd sydd o’u blaenau.

Mae hyn ynghyd â’r cyhoeddiad bod cyfleuster gweithgynhyrchu newydd Aston Martin yn Sain Tathan yng Nghymru yn cael y golau gwyrdd heddiw yn dangos bod gan fusnesau hyder i dyfu yng Nghymru. Mae rhagor o waith eto i’w wneud ond rydym yn edrych ymlaen at 2017 gyda gobaith newydd.

Cyhoeddwyd ar 16 December 2016