Datganiad i'r wasg

Allforion nwyddau Cymru 12.3% yn uwch yn 2017

Mae ffigurau newydd yn datgelu bod allforion Cymru bellach yn werth £16.4 biliwn.

Exports

Roedd allforion nwyddau yng Nghymru 12.3% (£16.4 biliwn) yn uwch yn ystod 2017 o gymharu â’r 12 mis blaenorol, yn ôl ffigurau diweddaraf CThEM (a gyhoeddwyd ddydd Iau 8 Mawrth).

Mae’r ffigurau’n dangos bod Cymru’n gartref i bron i 4,000 o allforwyr, a bod gwerth cyfartalog pob allforiwr yn fwy na £4.2 miliwn.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r cynnydd mawr yn allforion Cymru’n dangos bod ein cwmnïau brodorol yn llwyddo ar lwyfan y byd a bod galw’n fyd-eang am y nwyddau a’r gwasanaethau o safon uchel sydd gennym i’w cynnig.

Ond mae mwy o lawer y gallwn ei gyflawni. Rwyf am i fusnesau Cymreig fynd allan i’r byd mawr, i fasnachu a chynnal eu busnes. Dyna pam rydym yn rhannu’r cyngor, yr arweiniad a’r cymorth sydd ar gael i fusnesau Cymru gan Lywodraeth y DU, ac yn arbennig felly gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yng Nghanllaw Allforio Cymru.

O gyngor ac arweiniad i gefnogaeth ariannol a chymorth i fynd i ffeiriau masnach, mae gan Lywodraeth y DU ystod eang o gymorth ar gael i fusnesau sydd am gryfhau eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu effaith sylweddol Cymru ar gyfraddau allforio’r DU sydd ar gynnydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Dr Liam Fox:

Mae’r DU ar drothwy cyfnod o gyfleoedd economaidd digynsail, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd mawr mewn allforion ynghyd â chynnydd mewn allbwn gweithgynhyrchu ar ddechrau’r flwyddyn – ac mae hyn oll yn creu darlun cadarnhaol i economi Prydain.

A ninnau’n adran datblygu economaidd, rydym yn cynorthwyo busnesau’r DU ym mhob rhan o’r wlad i lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae hynny yn ei dro’n creu mwy o swyddi da a ffyniant gartref.

Mae’r darlun cadarnhaol hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (a gyhoeddwyd ddydd Gwener 9 Mawrth). Mae’r rhain yn dangos bod allforion y DU wedi cynyddu 11.5% i £625.9 biliwn yn y flwyddyn o fis Chwefror 2017 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2018.

Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod sector gwasanaethau uchel ei fri y DU yn parhau i ffynnu a bod allforion wedi codi 10.1% i £281.4 biliwn, gan gynyddu’r gwarged gwasanaethau i £107.9 biliwn.

Mae allforion yn dal i gynyddu’n gynt na mewnforion a’r diffyg masnachu cyffredinol wedi lleihau £12.8 biliwn o £41.6 biliwn i £28.8 biliwn.

Bydd Gŵyl Arloesi GREAT , o 21–24 Mawrth yn Hong Kong yn llwyfan i arddangos rhai o fusnesau gorau Prydain i’r farchnad Asiaidd. Bydd yr Ŵyl yn dwyn ynghyd arweinwyr busnes, Gweinidogion y Llywodraeth a’r technolegau arloesol diweddaraf o’r DU a ledled Asia.

Cyhoeddwyd ar 15 March 2018