Bil Cymru sy'n cynnig setliad datganoli “cliriach, tecach a chadarnach” i Gymru yn cael ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin
Bil Cymru sy'n cynnig setliad datganoli “cliriach, tecach a chadarnach” i Gymru yn cael ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin

Bil Cymru sy’n cynnig setliad datganoli “cliriach, tecach a chadarnach” i Gymru yn cael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin
Mae Bil Cymru wedi pasio ei gam olaf yn Nhŷ’r Cyffredin bellach, ac mae ar ben ffordd i gyflwyno cyfres o bwerau “cliriach, tecach a chadarnach” i Gymru.
Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru oedd yn arwain y drafodaeth ar gam yr Adroddiad a thrydydd darlleniad y Bil neithiwr.
Dywedodd fod y Bil yn “cyflwyno cyfres o bwerau hanesyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn trawsnewid y Cynulliad yn ddeddfwrfa cwbl Gymreig, wedi’i chadarnhau fel rhan barhaol o gyd-destun cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod y Cynulliad ar y trywydd iawn i ddod “yn sefydliad sy’n atebol i bobl Cymru, gyda phwerau dros drethi a fydd yn ei wneud yn gyfrifol nid yn unig am sut caiff arian ei wario yng Nghymru, ond hefyd am sut caiff arian ei godi.”
Bydd y Bil yn rhoi pwerau i’r Cynulliad dros feysydd megis:
- Cyfyngiadau cyflymder
- Rheoleiddio tacsis a bysiau
- Porthladdoedd
- Ffracio
- Caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau ynni
- Etholiadau a phrosesau llywodraeth leol a’r Cynulliad
Mae’r Bil yn ymgorffori’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fel rhannau parhaol o gyd-destun cyfansoddiadol y DU am y tro cyntaf.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cydnabod bod corff o gyfraith Gymreig a wnaed gan y Cynulliad a gweinidogion Cymru sy’n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.
Dywedodd Mr Cairns wrth Dŷ’r Cyffredin: “Bydd y pwerau yn y Bil hwn yn ein tywys i oes newydd o ddatganoli yng Nghymru - un sy’n rhoi terfyn ar y dadlau cyson ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth.”
Byddai’r cyhoedd yn glir o ran pwy sy’n atebol am benderfyniadau ar wasanaethau cyhoeddus, a byddai’r ddeddfwriaeth yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru “wir yn atebol i bobl Cymru”, ychwanegodd yr Ysgrifennydd Gwladol.
Bydd Tŷ’r Arglwyddi yn craffu ar Fil Cymru nawr.