Datganiad i'r wasg

Cymru: "cenedl sy’n masnachu, yn ddeinamig ac yn agored" yn barod ar gyfer byd ar ôl Brexit

Heddiw (Dydd Iau, Medi 8fed), bydd Guto Bebb yn dweud bod Cymru yn "genedl sy’n masnachu, yn ddeinamig ac yn agored” ac mewn sefyllfa dda i ffynnu mewn byd ôl-Brexit.

Politician Guto Bebb MP

Guto Bebb MP

Mewn cyfarfod brecwast a gynhelir gan Bobl Fusnes Proffesiynol Wrecsam, bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer economi gref yng Nghymru sy’n barod i wneud busnes ym mhedwar ban byd.

Bydd yn dweud wrth y grŵp bod:

Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle i ni nawr greu rôl newydd i’n hunain yn y byd. Rydyn ni’n mynd i fod yn uchel ein cloch a gwneud ein gorau glas i hybu masnach: gan hyrwyddo Cymru fel lle i wneud busnes ac i fasnachu ag ef, yn ogystal â gyrru buddsoddiad mewnol.

Rydyn ni’n cydnabod y byddwn yn wynebu newidiadau wrth i’n heconomi addasu i effeithiau pleidlais y refferendwm, ond byddwn yn adeiladu ar gryfderau Cymru fel cenedl sy’n masnachu, yn ddeinamig ac yn agored.

Rydyn ni’n dal i fod yn genedl ac yn economi sy’n edrych allan, ac mae’r ffigurau buddsoddi mewnol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod Cymru eisoes yn lleoliad deniadol i fuddsoddwyr tramor y tu allan i’r UE. Camwn i’r cyfnod trosiannol hwn a ninnau mewn safle o gryfder economaidd. Mae Cymru wedi gweld lefelau cyflogaeth uwch nag erioed eleni, ac mae diweithdra ar ei isaf ers dros ddegawd.

Fodd bynnag, bydd Mr Bebb yn tanlinellu pwysigrwydd parhaus Ewrop i fusnesau yng Nghymru: “Yn amlwg, mae Ewrop wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn bartner pwysig i Gymru. Yn 2014, gwnaethom allforio gwerth £5.8 biliwn o nwyddau i’r UE, sef 43 y cant o’r holl nwyddau a allforiwyd.

Bydd Mr Bebb yn dweud wrth y grŵp yn Wrecsam fod:

Gogledd Cymru yn “perfformio’n eithriadol o gryf” gyda’r gyfradd gyflogaeth uchaf o blith holl ranbarthau Cymru. Bydd yn datgan bod “gan y rhanbarth lawer i fod yn falch ohono”.

Ar ôl y cyfarfod brecwast, bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn ymweld â safle cwmni trelars Ifor Williams yng Nglannau Dyfrdwy ac yn blasu danteithion traddodiadol o Gymru yn The Village Bakery ar Stâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Cyhoeddwyd ar 8 September 2016