News story

Update on complying with a restriction

We will not send a request for information (requisition) from April if consents are to the disposition only.

An illustration of a laptop computer displaying practice guide 19

[English] - [Cymraeg]

In March 2019, we told you that to comply with restrictions we would only accept consents that state ‘consent is given to registration of the disposition’ from April 2020. We said consents that ‘consent to the disposition only’ would not be accepted from that date. Section 3.1.1 of our practice guide 19 was updated, and we issued several reminders about this change.

Following feedback about the full implications of our decision from some customers and stakeholders, we have looked at this again.

We still think the right form of consent is to registration. In addition, the best form of consent will:

  • be addressed to the registrar
  • specifically identify the dispositions
  • identify the restriction

We have decided we will not send a request for information (requisition) from April if consents are to the disposition. In these situations we will interpret consents to registrable dispositions as including consent to their registration. We will keep this under review.

We are aware some customers have already taken steps to introduce the right form of wording as a result of our advice. We thank those customers and encourage all customers to do the same.

We want to align our process and requirements more closely with yours, to make it easier and more consistent for both of us. To help achieve this we are considering how our processes might provide a standard approach to providing consents.

We will share more information about this as soon as we can.

[English] - [Cymraeg]

Diweddariad ar gydymffurfio â chyfyngiad

Ni fyddwn yn anfon cais am wybodaeth (ymholiad) o Ebrill os yw cydsyniadau i’r gwarediad yn unig.

Ym Mawrth 2019, dywedwyd wrthych mai dim ond cydsyniadau sy’n datgan y ‘rhoddir cydsyniad i gofrestru’r gwarediad’ y byddem yn eu derbyn o Ebrill 2020 er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau. Dywedwyd na fyddai cydsyniadau sy’n ‘cydsynio i’r gwarediad yn unig’ yn cael eu derbyn o’r dyddiad hwnnw. Diweddarwyd adran 3.1.1 o’n cyfarwyddyd ymarfer 19, a chyhoeddwyd sawl nodyn atgoffa am y newid hwn.

Yn dilyn adborth am oblygiadau llawn ein penderfyniad gan rai cwsmeriaid a budd-ddeiliaid, rydym wedi edrych ar hyn eto.

Rydym yn dal i feddwl mai’r math cywir o gydsynio yw i gofrestriad. Yn ogystal, bydd y math gorau o gydsynio:

  • yn cael ei gyfeirio at y cofrestrydd
  • yn nodi’r gwarediadau’n benodol
  • yn nodi’r cyfyngiad

Rydym wedi penderfynu na fyddwn yn anfon cais am wybodaeth (ymholiad) o Ebrill os yw cydsyniadau i’r gwarediad. Yn y sefyllfaoedd hyn, byddwn yn dehongli cydsyniadau i warediadau cofrestredig fel rhai sy’n cynnwys cydsynio i’w cofrestru. Byddwn yn adolygu hyn.

Rydym yn ymwybodol bod rhai cwsmeriaid eisoes wedi cymryd camau i gyflwyno’r ffurf gywir o eiriad o ganlyniad i’n cyngor. Rydym yn diolch i’r cwsmeriaid hynny ac yn annog pob cwsmer i wneud yr un peth.

Rydym am wneud ein proses a’n gofynion yn gydnaws â’ch rhai chi, i’w gwneud yn haws ac yn fwy cyson i’r ddau ohonom. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn ystyried sut y gallai ein prosesau ddarparu dull safonol o roi cydsyniad.

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am hyn cyn gynted ag y gallwn.

Published 16 March 2020