Datganiad i'r wasg

Barod am y Gwpan

Er mai heddiw yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am docynnau ar gyfer Cwpan y Byd eleni, mae cyfle o hyd i gefnogwyr pêl droed a gollodd y cyfle i wneud cais gael gafael ar memorabilia yn dathlu’r gystadleuaeth.

Yn hanesyddol, gall memorabilia pêl droed fynd am gannoedd o filoedd o bunnoedd, a’r eitem ddrutaf erioed a werthwyd yng ngwledydd Prydain oedd Cwpan FA wreiddiol, yn dyddio o 1871, a aeth i brynwr lwcus am £420,000 yn Christie’s yn 20051.

Mae’r eitemau drutaf erioed o memorabilia pêl droed Cwpan y Byd a werthwyd yn cynnwys2:

  1. Replica o Dlws Jules Rimet £254,500.
  2. Medal Cwpan y Byd 1966 Nobby Stiles £188,200
  3. Medal Cwpan y Byd 1966 Alan Ball £164,800
  4. Crys ail hanner rownd derfynol Cwpan y Byd 1970 Pele £157,750
  5. Medal Cwpan y Byd 1966 Gordon Banks £124,750
  6. Crys rownd derfynol Cwpan y Byd 1966 Geoff Hurst £91,750
  7. Medal Cwpan y Byd 1966 Ray Wilson £80,750
  8. Crys rownd derfynol Cwpan y Byd 1958 Pele £70,505
  9. Crys hanner cyntaf rownd derfynol Cwpan y Byd 1970 Pele £66,500
  10. Crys rownd derfynol Cwpan y Byd 1966 Alan Ball £51,755

Gallai cefnogwyr pêl droed sy’n gobeithio cael memento ar gyllideb lai brynu cofrestriad wedi’i bersonoli a ysbrydolwyd gan Gwpan y Byd 2018 oddi wrth y DVLA.

Gall cefnogwyr y gêm gain ddefnyddio teclyn chwilio’r wefan i ddod o hyd i’r plât thema pêl droed perffaith iddyn nhw, ac mae WO18 RLD, WE18 WON ac FR18 NCE ar gael ar hyn o bryd.

Dywedodd Jody Davies, Uwch Reolydd Gwerthu Cofrestriadau wedi’u Personoli y DVLA:

Mae’n amlwg fod marchnad i memorabilia pêl droed ac mae’r deg uchaf yma’n dangos faint mae pobl yn fodlon ei wario ar ddathlu’r gêm. A chan fod mwy na 50 miliwn o gofrestriadau ar gael ar ein gwefan mae gan gefnogwyr pêl droed gyfleoedd dihysbydd bron i ddathlu eu cariad o’r gêm a’u tîm, gan ddechrau ar ddim ond £250.

Gall modurwyr ymuno ag ysbryd Cwpan y Byd yn syth ac mae 18 cofrestriad ar gael ar hyn o bryd.

Nodiadau i olygyddion:

Gellir prynu cofrestriadau wedi’u personoli 24 awr y dydd ar-lein. Mae tîm pwrpasol hefyd ar gael i helpu cwsmeriaid ddod o hyd i’r cofrestriad maen nhw ei eisiau dros y ffôn trwy ffonio 0300 123 0883. Mae llinellau ar agor o Ddydd Llun tan Ddydd Gwener, 8.00am i 4.30pm.

1 Guinness World Records

2 Wikicollecting

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 31 January 2018