Stori newyddion

Cyfradd diweithdra yng Nghymru yn disgyn yn llai ‘na cyfartaledd y DU

Alun Cairns yn rhoi sylwadau ar y ffigurau swyddi diweddaraf sy'n dangos bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng yng Nghymru.

Mae Alun Cairns wedi croesawu’r ffigurau diweddaraf am swyddi sy’n dangos bod cyfraddau diweithdra yng Nghymru wedi disgyn dros y chwarter diwethaf a’u bod bellach yn is na gweddill y DU.

Mae’r ystadegau’n dangos y canlynol:

  • Mae lefel diweithdra 11,000 yn is dros y chwarter. Mae’r gyfradd yng Nghymru bellach yn 4% sy’n is na chyfartaledd y DU sef 4.3%
  • Mae’r lefel cyflogaeth yng Nghymru 13,000 yn is (0.1 pwynt canran) dros y chwarter. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 72.5% sy’n dal yn is na chyfartaledd y DU (75.1%)
  • Mae anweithgarwch economaidd 11,000 yn uwch (0.6 pwynt canran) dros y chwarter a 21,000 yn uwch (1.1 pwynt canran) dros y flwyddyn.
  • Mae cyfanswm cyflogaeth y DU 94,000 yn uwch (0.2 pwynt canran) dros y chwarter a 317,000 yn uwch (0.7 pwynt canran) dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 75.1%.
  • Mae cyfanswm diweithdra’r DU 52,000 yn is (0.2 pwynt canran) dros y chwarter a 215,000 yn is (0.7 pwynt canran) dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach yn 4.3% sydd ymysg yr isaf ers 1975.

Dywedodd Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae hi’n grêt gweld y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn disgyn yn is na chyfartaledd y DU. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i greu’r amodau iawn ar gyfer twf economaidd, buddsoddiad a swyddi yng Nghymru ac mae ystadegau’r mis yma’n dangos cryfder economi Cymru.

Serch hynny, mae angen gwneud mwy i gynyddu’r gyfradd cyflogaeth. Rwy’n bendant y bydd allforio mwy i farchnadoedd newydd yn tyfu economi Cymru ac yn creu swyddi ar draws Cymru. Dwi’n gwneud popeth rwy’n gallu ei wneud i helpu cwmnïau yng Nghymru gynyddu eu potensial allforio.

Cyhoeddwyd ar 18 October 2017