Datganiad i'r wasg

Prif Weithredwr Masnach a Buddsoddi’r Deyrnas Unedig yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau Cymru.

Ysgrifennydd Cymru’n tywys Nick Baird ar ymweliad â Chaerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Business is GREAT Britain

Business is GREAT Britain

Cwmnïau animeiddio 3D arloesol a deorydd ar gyfer egin-gwmnïau meddygol a gwyddor bywyd - dim ond dau o’r cwmnïau amrywiol y bydd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, yn eu dangos i Brif Weithredwr Masnach a Buddsoddi’r Deyrnas Unedig (UKTI), Nick Baird, heddiw (25 Medi) ar daith o amgylch rhai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Caerdydd.

UKTI yw’r adran llywodraeth sy’n gyfrifol am helpu cwmnïau i allforio nwyddau a gwasanaethau dramor yn ogystal â denu mewnfuddsoddiadau i brosiectau a diwydiannau cartref. Mae Mr Baird yn ymweld â phrifddinas Cymru i danlinellu lefel y gefnogaeth sydd gan UKTI i’w chynnig i fusnesau yng Nghymru sy’n awyddus i fasnachu neu ehangu yn y farchnad dramor.

I ddechrau, bydd Mr Jones a Mr Baird yn ymweld ag Atticus Digital – asiantaeth greadigol sydd wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd ac sydd eisoes wedi gwneud enw da iddo’i hun ymhlith cwmnïau rhyngwladol megis CNN a BP. Mae’r cwmni yn credu bod treiddio ymhellach i farchnadoedd tramor yn allweddol ar gyfer eu twf i’r dyfodol.

Byddant wedyn yn ymweld â Chanolfan Feddygol Caerdydd sydd wedi’i lleoli ar gampws Ysbyty Prifysgol Caerdydd. Pwrpas y ganolfan yw darparu cyfleusterau arbenigol, gan gynnwys gofod swyddfa a labordai i egin-gwmnïau yn y sector meddygol, gofal iechyd a gwyddor bywyd. Bydd Mr Baird a Mr Jones yn gweld sut mae’r gofod a’r arbenigedd arbenigol a ddarperir yn y ganolfan yn denu buddsoddwyr newydd sy’n ystyried sefydlu eu hegin-gwmnïau newydd yng Nghymru am y tro cyntaf.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:

Mae pob un ohonom am weld Cymru’n dod yn wlad fwy llewyrchus, gan gynyddu cyflogaeth yn y sector preifat a rhoi gwell cyfleoedd i fusnesau dyfu.

Ac mae arwyddion cadarnhaol bod hyn yn digwydd - crëwyd 67,000 o swyddi yn y sector preifat yng Nghymru er 2012*, a gwelwyd cynnydd o 191% yn nifer y buddsoddiadau gan gwmnïau tramor yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf**.

Fel Llywodraeth, rydym eisiau gwneud mwy i sicrhau bod busnesau Cymru’n manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddynt i gynyddu ac ehangu i’r marchnadoedd newydd. Mae gan UKTI, sydd â chynrychiolwyr ym mhedwar ban byd, rôl bwysig i’w chwarae yn y broses hon.

Mae UKTI yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Bydd rhyddhau potensial cwmnïau fel y rhai yr ydym yn ymweld â hwy heddiw yn allweddol wrth sicrhau adferiad cynaliadwy.

Dywed Nick Baird, Prif Weithredwr UKTI:

Yr wyf wrth fy modd yn cael bod yng Nghymru unwaith yn rhagor i weld, drosof fy hun, sut mae cwmnïau lleol yn gweithio i ryngwladoli eu busnesau gyda chefnogaeth gan UKTI a Thîm Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Cymru, sy’n gweithredu fel ein partner cyflenwi ar gyfer gwasanaethau masnach yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn falch o gael cyfle i siarad ag Aelodau Cynulliad Cymru ynglŷn â’r gefnogaeth y gall UKTI ei chynnig gyda masnach a mewnfuddsoddiadau.

Mae UKTI yn cynnig ystod helaeth o raglenni cefnogi masnach, gan gynnwys cymorth gydag ymchwil marchnad a chanfod contractau tramor. Mae manylion llawn i’w cael ar wefan UKTI.

Yn ystod eu hymweliad ag Atticus Digital, bydd Mr Jones a Mr Baird yn gweld sut mae cwmni a sefydlwyd fel asiantaeth dylunio graffig ym 1998 wedi ehangu i gynhyrchu animeiddio 3D, fideos, gwefannau a chyflwyniadau rhyngweithiol sydd wedi gwneud argraff ddofn ar nifer o gleientiaid rhyngwladol.

Bydd Rheolwr Gyfarwyddwr Atticus, Martin McCabe, yn tynnu sylw at rai o’r datrysiadau marchnata creadigol ac arloesol a gynhyrchwyd gan ei dîm yng Nghaerdydd, a bydd yn amlinellu ei gynlluniau i fentro i faes rhith-gymwysiadau a chymwysiadau realiti uwch.

Dywed Mr McCabe:

Dros y blynyddoedd, bu’n frwydr hir ac anodd weithiau; ond ni phylodd brwdfrydedd y tîm erioed dros ddarparu datrysiadau gwreiddiol ac arloesol i anghenion cyfathrebu ein cleientiaid.

Erbyn hyn, mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth trefnu digwyddiadau corfforaethol llawn, gyda thîm profiadol o weithwyr proffesiynol y mae eu cleientiaid yn cynnwys Land Rover, AstraZeneca, Norwich Union ac Aviva. Mae Atticus yn ymroddedig i barhau i ddarparu datrysiadau cyfathrebu creadigol i nifer cynyddol o gwmnïau byd-eang sy’n elwa o agwedd ‘Datrys y Dyrys’ Atticus.

Yn nes ymlaen, bydd Mr Baird a Mr Jones yn ymweld â Chanolfan Feddygol Caerdydd ac yn cwrdd â chynrychiolwyr o gwmnïau meddygol-dechnegol MedaPhor, Cupid Peptides a WIMAT – tri busnes sydd, ar hyn o bryd, yn manteisio ar y cyfleusterau a’r gefnogaeth sydd i’w cael ar y campws.

Mae Canolfan Feddygol Caerdydd 96% yn llawn ar hyn o bryd – y lefel uchaf ers deng mlynedd. Rhagwelir y bydd y lefel yn codi yn uwch fyth dros y chwe mis nesaf, wrth i fusnesau sydd wedi’u lleoli yn y ganolfan gynyddu ac egin-gwmnïau newydd symud i mewn.

Yn ystod eu cyfnod yn y ganolfan, bydd busnesau’n cael cyngor ynglŷn â chanfod cyfalaf mentro i ariannu eu twf i’r dyfodol, a gallant elwa o weithio gydag ymchwilwyr o’r ysbyty a Phrifysgol Caerdydd.

Dywed Robert Jackson, Rheolwr Arloesi Canolfan Feddygol Caerdydd:

Mae lefel deiliadaeth Canolfan Feddygol Caerdydd wedi cynyddu o 60% yn 2010 i 96% ym Medi 2013. Mae hyn yn adlewyrchu twf y sector Gwyddor bywyd a lleoliad y Ganolfan yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd. Rydym yn ymhyfrydu yn ein rôl lwyddiannus yn cefnogi cwmnïau Gwyddor Bywyd yn y ganolfan ddeori; creu swyddi, allforio cynnyrch a gwasanaethau sydd, yn eu tro, yn gwella bywyd bob dydd dinasyddion yma a thramor fel ei gilydd.

NODIADAU I OLYGYDDION

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â: Tîm Cyfathrebu Cymru - 029 2092 4204 / 020 7270 0565 Swyddfa’r Wasg UKTI – 020 7215 5245

*Ffigurau’r Adran Gwaith a Phensiynau Medi 2013

**Ffigurau o Adroddiad Blynyddol Mewnfuddsoddi UKTI 2012/13

Gellir darllen Adroddiad Blynyddol Mewnfuddsoddi UKTI yma: http://www.ukti.gov.uk/investintheuk/investintheukhome/item/553980.html

Cyhoeddwyd ar 25 September 2013