Datganiad i'r wasg

Prif gartref Cymru newydd Llywodraeth y DU wedi'i enwi ar ôl arloeswr llenyddol

Canolfan newydd Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd wedi’i enwi Tŷ William Morgan - William Morgan House i gydnabod ei rôl yn natblygiad Cymraeg fodern

Cardiff UK Government hub named Tŷ William Morgan - William Morgan House

Cardiff UK Government hub named Tŷ William Morgan - William Morgan House

  • Dewiswyd yr enw i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru a diwylliant Cymru
  • Mae gan yr adeilad y gallu i gynnal cyfarfodydd llawn Cabinet y DU

Bydd adeilad Llywodraeth y DU yn Sgwâr Canolog Caerdydd yn cael ei enwi ar ôl yr Esgob William Morgan i gydnabod ei rôl ganolog o ran cynnal cryfder y Gymraeg, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns heddiw, dydd Iau 31 Hydref.

Treuliodd William Morgan bron i ddegawd yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg o Groeg a Hebraeg. Mae ei waith hynod arwyddocaol, a gwblhawyd yn 1588, yn cael ei weld fel y garreg sylfaen y mae llenyddiaeth Gymraeg fodern yn seiliedig arni.

Dewiswyd enw’r adeilad newydd i adlewyrchu creadigrwydd ac ymroddiad gweision sifil yng Nghymru ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i ddiwylliant Cymru.

Mae mwy na 4,000 o staff o wahanol adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithio o’r ganolfan 12-llawr, a fydd â’r gallu i gynnal cyfarfodydd llawn o Gabinet y DU. Disgwylir i’r aelodau staff cyntaf symud i mewn ymhen deuddeng mis.

Mae Tŷ William Morgan/William Morgan House yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy’n cael ei greu ar hyn o bryd ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU fel rhan o Strategaeth Ystâd y Llywodraeth.

Bydd staff canolfan Caerdydd yn elwa o amgylchedd gweithio hyblyg a chynhwysol yn ogystal â mynediad agos i orsaf drenau Caerdydd Canolog a chysylltiadau trafnidiaeth eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Tŷ William Morgan - William Morgan House yn ganolog i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth y DU i greu gwasanaeth sifil deinamig sydd â’r gallu i fodloni gofynion y dyfodol.

Mae’r adeilad newydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i gryfhau’r Undeb. Bydd yn darparu amgylchedd gwaith modern i ddenu a chadw staff o safon uchel a fydd yn gallu tyfu eu gyrfaoedd yn lleol.

Mae’n addas fod yr adeilad nodedig hwn yn ein prifddinas yn cael ei enwi ar ôl ffigwr y bu ei gyfieithiad arloesol o’r Beibl yn allweddol i barhad a thwf y Gymraeg ac yn natblygiad ein diwylliant unigryw.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 31 October 2019