Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn croesawu adroddiad ar Ddatganoli Pwerau Cyllidol i Gymru

Heddiw, croesawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn ‘Silk’), sy’n argymell datganoli …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn ‘Silk’), sy’n argymell datganoli pwerau cyllidol penodol i Gymru.

Mae’r adroddiad, sef Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru, yn argymell y dylid datganoli pwerau treth a benthyca penodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth y DU yn awr yn ystyried yr argymhellion ac yn ymateb maes o law.

Bydd y Comisiwn, a sefydlwyd y llynedd, yn awr yn troi at ail ran ei gylch gwaith, i adolygu pwerau presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. O ganlyniad, bydd nifer o newidiadau i gyfansoddiad y Comisiwn.

Bydd Dyfrig John CBE, aelod annibynnol o’r Comisiwn, a Sue Essex, aelod Llafur Cymru, yn rhoi’r gorau iddi. Bydd Helen Molyneux, Prif Weithredwr New Law Solicitors, Caerdydd, a Jane Davidson, cyn Weinidog Cymru, yn cael eu penodi yn eu lle. Bydd Trefor Glyn Jones CVO, cyn Arglwydd Raglaw Clwyd, hefyd yn ymuno a’r Comisiwn i sicrhau bod safbwyntiau Gogledd Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Diolch yn fawr i Paul Silk a’r Comisiwn am eu gwaith caled wrth lunio’r adroddiad hwn.

“Maent wedi gofyn am farn pobl o bob cwr o Gymru, ac wedi sicrhau bod yr argymhellion wedi cael cefnogaeth unfrydol gan yr holl Gomisiynwyr, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r pedair plaid yn y Cynulliad.

“Byddaf yn awr yn ystyried argymhellion yr adroddiad, yn eu trafod gyda chydweithwyr priodol ar draws y Llywodraeth, ac yn ymateb yn ffurfiol maes o law.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Dyfrig John ac i Sue Essex am eu gwaith caled a’u harbenigedd wrth lunio’r argymhellion. Mae’n gwbl deg i’r Comisiwn fod yn falch o’r consensws trawsbleidiol y mae wedi’i sicrhau wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn.

“Wrth i ni edrych at Ran II, gwn y bydd y Comisiwn yn elwa o arbenigedd eang y comisiynwyr newydd, sef Helen Molyneux, Trefor Glyn Jones a Jane Davidson. Rwy’n siŵr bod y tri yn awyddus iawn i ddechrau arni.”

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys: “Rwy’n ddiolchgar i Paul Silk a’r Comisiwn am eu harbenigedd a’u manylder wrth wneud y gwaith pwysig hwn. Edrychwn ymlaen at adolygu argymhellion y Comisiwn a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r holl bleidiau yng Nghynulliad Cymru, i sicrhau canlyniad uchelgeisiol sy’n bodloni anghenion pobl Cymru i’r graddau gorau posibl.”

NODIADAU I OLYGYDDION:

  1. Gellir cael copi o Ddatganiad Ysgrifenedig y Gweinidog yma. http://www.parliament.uk/documents/commons-vote-office/November_2012/19-11-12/8-Wales-DevolutionCommission.PDF

  2. Mae adroddiad Comisiwn Silk, Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru ar gael yma http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf

  3. Sefydlwyd Comisiwn Silk y llynedd a chytunodd pob un o’r pedair plaid yn y Cynulliad ar y cylch gorchwyl. Gellir gweld copi o’r cylch gorchwyl yma http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2011/11/Commission-ToR-Final.pdf

Cyhoeddwyd ar 19 November 2012