Llywodraeth y DU yn anrhydeddu merched arloesol ym myd amaeth yn Sioe Frenhinol Cymru
Alun Cairns i ddathlu cyfraniadau merched Cymru at ffermio ym Mhrydain yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd merched blaenllaw o’r sector bwyd a’r sector ffermio o bob cwr o’r wlad yn ymuno ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn digwyddiad i ddathlu cyfraniadau merched Cymru at ffermio ym Mhrydain yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (24 Gorffennaf).
Ymhlith y sawl fydd yn ymuno ag Ysgrifennydd Cymru fydd Abi Reader, cyn Ffermwraig y Flwyddyn Cymru, Alison Lea-Wilson, sylfaenydd Halen Môn a Dr Nerys Llewelyn Jones, Partner Rheoli Agri Advisor, gyda phob un yn llywio’r drafodaeth ar hyrwyddo a chynyddu nifer y merched sy’n troi at y diwydiant i gael gyrfa foddhaus.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae angen i ffermio, fel unrhyw ddiwydiant, ddenu doniau a syniadau newydd a manteisio ar sgiliau merched a dynion fel ei gilydd.
Mae ein digwyddiad heddiw yn gyfle gwych i ni ddathlu’r cyfraniad mae merched yn ei wneud at ffermio - o beirianneg amaethyddol i gynhyrchu bwyd a chynghori manwerthwyr ac archfarchnadoedd.
Mae’n bwysig i ni gydnabod rôl flaenllaw merched yn y diwydiant amaethyddol, a gaiff ei ystyried yn aml yn ddiwydiant lle mae dynion fwyaf blaenllaw. Rydw i nawr am weld y diwydiant yn adeiladu ar hyn a mwy o ferched mewn swyddi ym myd ffermio.
Bydd y digwyddiad yn darparu llwyfan i drafod ystod eang o faterion yn ymwneud â merched ym myd ffermio, yn cynnwys y rhwystrau mae merched yn parhau i’w hwynebu pan fyddant yn dechrau datblygu gyrfa yn y diwydiant, a sut mae annog mwy o ferched a myfyrwyr sy’n ferched i ystyried ffermio fel dewis gyrfa ddilys.
Bydd y ffermwr godro Abi Reader o Wenfô ym Mro Morgannwg yn y digwyddiad. Cafodd Ms Reader ei choroni’n Ffermwraig y Flwyddyn Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2016 - gwobr sy’n ceisio hyrwyddo cyfraniad merched at y diwydiant amaethyddol a chodi proffil merched ym myd ffermio.
Dywedodd Ms Reader:
Mae codi proffil merched ym myd ffermio yn bwysig i helpu merched oed ysgol a hŷn i weld y cyfleoedd gwych sy’n gysylltiedig â gweithio yn y sector ffermio ac i’w hysbrydoli nhw i fod yn rhan ohono. Yn rhy aml, bydd merched yn diystyru ffermio fel dewis gyrfa ond gall unrhyw un weithio ym maes cynhyrchu bwyd a rheoli cefn gwlad, ar yr amod bod ganddynt yr ymroddiad a’r angerdd i wneud hynny.