Stori newyddion

Llywodraeth y DU i ddarparu £95m ychwanegol i fynd i’r afael â'r coronafeirws yng Nghymru

Mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau ei bod yn rhoi £95m arall i gefnogi’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i'r afael â’r coronafeirws.

Pound coins

Pound coins

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £95m arall i gefnogi’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws, mae’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn 18 Ebrill).

O ganlyniad i gyllid Llywodraeth y DU i gynghorau ar draws Lloegr a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Robert Jenrick, bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael £95 miliwn ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r ymdrech yng Nghymru bron yn £2 biliwn, gan helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i’r rheini sydd angen hynny yn ystod yr argyfwng yma.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, gan roi’r arian angenrheidiol er mwyn gallu mynd i’r afael â’r her eithriadol hon.

Gyda’r cyllid uniongyrchol diweddaraf hwn, yn ogystal â’r cymorth sydd wedi cael ei gynnig i bobl ac i fusnesau ledled Cymru drwy gynlluniau sydd ar waith ar draws y DU, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud beth bynnag sydd ei angen i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Bydd y £95 miliwn ychwanegol hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau hanfodol i helpu pobl i ddod drwy’r pandemig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol y Gwir Anrhydeddus Robert Jenrick AS:

Rydym yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda llywodraeth leol a’m blaenoriaeth i yw sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi er mwyn iddynt allu parhau i gefnogi eu cymunedau drwy’r cyfnod dyrys yma.

Gweithwyr cynghorau yw’r arwyr tawel wrth i ni fynd i’r afael â´r feirws yma. Maent ar y rheng flaen yn yr ymdrech i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl. Ni fu hyn erioed mor bwysig ac rydym yn ddiolchgar am bopeth maent yn ei wneud.

Yn ogystal â’r £2bn ychwanegol sydd wedi cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru hyd yma, mae pobl Cymru hefyd yn elwa o ystod o fesurau sy’n cefnogi pobl ar draws y DU.

Mae byddin y DU yn cyfrannu sgiliau arbenigol ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac i’r GIG ac mae busnesau yng Nghymru yn gallu cael gafael ar werth £330 biliwn o fenthyciadau wedi’u gwarantu gan Lywodraeth y DU a’r Cynllun Cadw Swyddi.

Diwedd

Cyhoeddwyd ar 21 April 2020