Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn agor y drws ar fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru

Guto Bebb: Byddai bargen twf yng nghanolbarth Cymru’n gatalydd i chwyldroi'r ffordd mae ein trefi a’n pentrefi ni’n eu llywodraethu eu hunain

Bydd Guto Bebb, Gweinidog yn Llywodraeth y DU, yn ymweld â Llandrindod heddiw i helpu i agor y drws ar fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru.

Bydd yn ymweld â swyddogion blaenllaw yr awdurdodau lleol, pobl fusnes a chynrychiolwyr o’r sector amaethyddol i annog busnesau i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu economi’r Canolbarth.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Gweinidog yn dweud bod gan economi’r Canolbarth botensial enfawr i dyfu.

Bydd yn dweud ei bod hi ar hyn o bryd yn amser allweddol i fusnesau ac awdurdodau lleol ddod at ei gilydd a gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i adeiladu ‘peiriant’ i’r Canolbarth a all greu swyddi a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.

O arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i straeon llwyddiant byd-eang fel Nidec Control Techniques, mae digon o arloesi, sgiliau a thechnoleg ar gael yn y rhanbarth eisoes.

Bydd y Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth y DU yn awyddus i weithio gyda chwmnïau a grwpiau ar lawr gwlad wrth iddynt ddatblygu bargen bwrpasol sy’n gweithio i’r Canolbarth i gyd.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n croesawu cynigion ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru, fel rhan o’r Gyllideb.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Guto Bebb:

Byddai bargen twf yng nghanolbarth Cymru’n gatalydd i chwyldroi’r ffordd mae ein trefi a’n pentrefi ni’n eu llywodraethu eu hunain - gan symud pwerau i lawr o Lundain a Chaerdydd a’u rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Mae datblygu Peiriant y Canolbarth dros y ffin yn gyfle unigryw i ffurfio partneriaeth a datblygu coridor twf sy’n ymestyn bob cam o Aberystwyth i Ganolbarth Lloegr.

Gyda lansiad ein Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru, mae hwn yn amser gwell nag erioed i fusnesau, awdurdodau lleol a’r sector amaethyddol fanteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a chreu gweledigaeth gadarn ar gyfer canolbarth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, Rosemarie Harris:

Mae gan fargeinion twf botensial i ailsiapio datblygiad economaidd rhanbarth ac felly rwyf yn croesawu’r ymrwymiad i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru.

Gall unrhyw fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru wella’r seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd digidol a helpu i ddatblygu’r cyfleoedd gwaith newydd ar gyfer y rhanbarth. Byddai hyn yn fanteisiol iawn i Bowys ac i Gymru yn gyffredinol hefyd. Rydyn ni eisiau datblygu economi ffyniannus ym Mhowys a bydd bargen twf ar gyfer Canolbarth Cymru’n ein helpu ni i gyflawni hynny.

Ychwanegodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad:

Rydyn ni’n falch o gael croesawu’r Gweinidog i’r cyfarfod o’r CLA i glywed ei syniadau am fargen twf canolbarth Cymru. Mae’n hanfodol nad yw’r rhanbarth yma’n cael ei adael ar ôl o ran twf economaidd a bod gwerth a phwysigrwydd yr economi wledig yn y rhanbarth hwn yn cael eu cydnabod a’u cefnogi.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 November 2017