Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU i dynnu sylw at botensial carbon isel Gogledd Cymru mewn araith i arweinwyr ynni

Bydd Gweinidog Andrew yn gwneud araith bwysig yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Glân Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy a thrafod dyfodol niwclear Gogledd Cymru yng ngorsaf bŵer Trawsfynydd.

  • Bydd y Gweinidog Andrew yn amlinellu uchelgais Llywodraeth y DU i sicrhau dyfodol carbon isel mewn araith bwysig yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Glân Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy.
  • Bydd y Gweinidog yn trafod y weledigaeth ar gyfer dyfodol niwclear Gogledd Cymru yng ngorsaf bŵer Trawsfynydd.
  • Bydd Stuart Andrew hefyd yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol fel rhan o’r ymgysylltiad parhaus i ddatblygu cynigion ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.

Ar Ddydd Iau (12 Mawrth), bydd Stuart Andrew, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn tynnu sylw at botensial Gogledd Cymru i ddatblygu atebion twf glân er mwyn lleihau cost ynni ac annog twf economaidd mewn araith i arweinwyr ynni yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Glân Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy.

Wrth siarad yn y digwyddiad yn Warrington, bydd y Gweinidog Andrew yn nodi sut mae Llywodraeth y DU yn gwneud cynnydd go iawn o ran ei Strategaeth Twf Glân, sy’n nodi’r cynlluniau i annog twf a pharhau i ddatgarboneiddio pob sector o economi’r DU yn ystod y 2020au.

Yn dilyn ymweliad â gorsaf bŵer niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd, mae disgwyl i’r Gweinidog hefyd dynnu sylw at werth Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) i sicrhau twf a chreu swyddi gwerth uchel ledled y DU.

Mae gan y DU botensial anferth i ddod yn arweinydd y byd o ran datblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau niwclear; diwydiant sydd eisoes yn ffyniannus ac a gyfrannodd £6.4 biliwn at economi’r DU yn 2016.

Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog Llywodraeth y DU:

Fel gwlad sy’n llawn ynni yn naturiol, mae tirlun ac adnoddau naturiol Cymru wedi golygu ein bod wedi bod ar flaen y gad o ran cyflenwad ynni yn y DU. Mae gennym nawr botensial i adeiladu ar yr arbenigedd hwn, gan fanteisio ar ein hadnoddau i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth drosglwyddo i economi carbon isel.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Strategaeth Twf Glân uchelgeisiol sy’n dangos sut gall y wlad i gyd elwa o gyfleoedd carbon isel. Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol a’r Her Fawr Twf Glân yn cefnogi’r uchelgeisiau hyn drwy gysylltu’n well â’r hyn rydym yn ei wneud yn y llywodraeth â’r hyn yr hoffem weld y diwydiant yn ei wneud.

Rydym yn cydnabod bod gan yr arbenigedd niwclear yng Ngogledd Cymru botensial i chwyldroi’r economi, gan ddatblygu cyfleoedd newydd i greu swyddi. Dyna pam mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo hyd at £56 miliwn ar gyfer technolegau niwclear uwch.

Fel rhan o’i ymweliad deuddydd â Gogledd Cymru, bydd y Gweinidog Andrew hefyd yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol y rhanbarth ddydd Mercher i ddatblygu cynigion ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, lle mae’r sector ynni yn debygol o chwarae rhan bwysig.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Stuart Andrew:

Bydd Bargen Twf yng Ngogledd Cymru yn trawsnewid y ffordd caiff y rhanbarth ei lywodraethu, gan ddod â phwerau i lefel leol a defnyddio syniadau mawr i ddatgloi twf a chysylltu trefi a dinasoedd yn well, yng Nghymru a dros y ffin.

Mae tirlun Gogledd Cymru yn berffaith i fod yn rhan allweddol o ddyfodol ynni carbon isel y DU, ac rwy’n annog arweinwyr lleol i ystyried ei botensial wrth lunio cynigion am fargen bwrpasol sy’n gweithio ar gyfer y rhanbarth i gyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 11 April 2018