Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU, Yr Arglwydd Bourne yn ymweld ag un o Brifysgolion blaenllaw Cymru

Lord Bourne: “Mae Prifysgol De Cymru yn chwifio'r faner dros Gymru drwy fynd â’i sgiliau blaenllaw yn y sector awyrofod i’r byd a'r betws”

UK Government Minister Lord Bourne visits University of South Wales' Newport campus

I nodi ei fod yn dychwelyd fel Gweinidog dros Lywodraeth y DU yng Nghymru, bydd yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth yn ymweld â champws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd heddiw (15 Tachwedd).

Mae’r brifysgol wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu cyrsiau gradd i fyfyrwyr ym maes peirianneg awyrofod fel un o’r partneriaid allweddol yn natblygiad newydd Dubai South yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig.

Bydd Prifysgol De Cymru yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf yn Dubai South o fis Medi 2018 ymlaen mewn cyfleuster ym Mharc Busnes presennol y datblygiad.

Trefnwyd yr ymweliad yn dilyn taith fasnach Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ddiweddar i Qatar. Yno, cafodd gyfle i dynnu sylw at y cyfleoedd ehangach y mae marchnadoedd yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn eu cynnig i Gymru. Hefyd, daeth yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, i weld stondin Prifysgol De Cymru yn Sioe Awyr Dubai y penwythnos diwethaf (12 Tachwedd).

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae Prifysgol De Cymru yn prysur ddatblygu ei statws fel un o brifysgolion blaenllaw Cymru gydag enw da, cadarn ar lefel ryngwladol.

Mae addysg uwch yn un o’r prif allforion yn y DU, a Dubai South fydd un o’r prif ganolfannau awyrofod yn y byd.

Rydym ni’n awyddus i gynnig llwyfan i’n sefydliadau addysg uwch er mwyn iddyn nhw allu rhannu eu harbenigedd a’u sgiliau ar draws y byd. Mae Prifysgol De Cymru yn brifysgol ddeinamig sy’n pontio’r bwlch rhwng diwydiant a byd academaidd, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymroi i gefnogi datblygiad y brifysgol.

Hefyd, bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld ag Academi Seiberddiogelwch Cenedlaethol Prifysgol De Cymru, lle mae’r brifysgol wrthi’n treialu gradd arbenigol, wedi’i hachredu gan Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.

Nod y radd fydd hyfforddi a datblygu arbenigedd o fewn maes seiberddiogelwch, gan gyfrannu at greu gweithlu datblygedig a lleihau’r prinder sgiliau yn y sector. Gan ei fod yn Ne Cymru, bydd yn manteisio ar y cyfle hefyd i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw yng Nghasnewydd.

Mae rhagor o wybodaeth am bresenoldeb Prifysgol De Cymru yn Dubai South ar gael yn www.southwales.ac.uk/dubai

Cyhoeddwyd ar 15 November 2017