Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne, yn ymweld â chanolfan arloesedd a gwyddoniaeth flaengar Prifysgol Glyndŵr

Yr Arglwydd Bourne: “Mae Canolfan OpTIC Glyndŵr yn arwain y ffordd ym maes busnes cynaliadwy a chreu swyddi, gan fynd â thechnoleg arloesol Gogledd Cymru i’r byd.”

Bydd y Gweinidog yn Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ymweld â phrifysgol yng Ngogledd Cymru heddiw (15 Rhagfyr). Dyma brifysgol sy’n torri tir newydd ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd.

Bydd y Gweinidog yn cael taith o gwmpas canolfan wyddoniaeth ac arloesedd OpTIC Prifysgol Glyndŵr, ac yn cwrdd ag Is Ganghellor y brifysgol, yr Athro Maria Hinfelaar.

Y brifysgol sy’n berchen Canolfan Dechnoleg OpTiC, ac yn ei rhedeg, ers 2009. Mae’n gartref i 18 o fusnesau, sy’n cyflogi dros 100 o staff.

Mae Arloesiadau Glyndŵr Innovations yn un o’r busnesau sydd wedi’u lleoli yn y ganolfan. Mae’r busnes hwn yn un o brif ddarparwyr gwasanaeth peirianneg datblygu cynnyrch arloesol a gwasanaeth ymgynghori ym maes technoleg.

Mae’r ganolfan yn gartref i gyfleusterau ymchwil a dylunio i gefnogi’r gwaith o ddatblygu technoleg optoelectroneg ac ymchwil wyddonol ar lefel uchel ar draws Gogledd Cymru.

Oherwydd arbenigedd y ganolfan ym maes optoelectroneg, cafodd ei gwyddonwyr eu dewis i loywi drychau prototeip ar gyfer telesgop mwyaf y byd yn 2015, sydd i’w gwblhau a’i leoli yn Chile yn 2024.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae Canolfan OpTIC Prifysgol Glyndŵr wedi bod yn hanfodol ar gyfer creu cwmnïau arloesol a chyflogaeth gynaliadwy yn yr ardal, gan ddatblygu sylfaen sgiliau’i myfyrwyr a chyflwyno technoleg Glyndŵr a Gogledd Cymru i’r byd.

Oherwydd ei lleoliad, mae’n fan perffaith i bontio rhwng ymchwil prifysgol a diwydiant, sy’n cael effaith go iawn ar yr economi leol ac economi Cymru.

Mae’n eich ysbrydoli i weld y Ganolfan OpTIC yn datblygu technoleg a chwmnïau o’r radd flaenaf, ac rwy’n edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i lwyddo ar y llwyfan byd-eang.

Bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Gwener. Yno, bydd yn cwrdd â’r Parchedig Rex Matthias fel rhan o’i ymweliad â Gogledd Cymru.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 15 December 2017