Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru yn croesawu symud ymlaen gyda Bargen Twf Canolbarth Cymru

Cynghorau Ceredigion a Phowys yn cymeradwyo ‘cytundeb rhwng awdurdodau’ ac yn ymrwymo i gydweithio ar brosiectau sydd o fudd i’r economi rhanbarthol.

From left to right – Glyn Davies MP, Cllr Rosemarie Harris, UK Government Minister for Wales Lord Bourne and Cllr Ellen ap Gwynn

From left to right – Glyn Davies MP, Cllr Rosemarie Harris, UK Government Minister for Wales Lord Bourne and Cllr Ellen ap Gwynn

Cyfarfu Gweinidog Llywodraeth y DU, Yr Arglwydd Bourne, ag arweinydd Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwyn, ac arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris, yn Y Trallwng i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Yn ystod y cyfarfod, canmolodd yr Arglwydd Bourne y cynnydd sylweddol a wnaed yn y rhanbarth wrth weithio tuag at weledigaeth economaidd i’r Canolbarth. Bydd y ‘cytundeb rhwng awdurdodau’ newydd yn galluogi’r cynghorau i weithio gyda’i gilydd a chyfuno adnoddau i lunio cynnig cryf ar gyfer prosiectau allweddol ar draws y ddwy sir. Unwaith y bydd y rhanbarth yn cytuno ar y prosiectau hynny, gellir cychwyn trafodaethau ar ‘Cytundeb Penawdau’r Telerau’.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu â busnesau arweiniol Canolbarth Cymru i annog cefnogaeth i’r fargen gan y sector breifat. Yn dilyn y cyfarfod hwn gydag arweinwyr y cynghorau, bu i Lord Bourne ymweld â DAVLEC Cyf a Northern Industrial Battery Services Cyf; mae’r ddau gwmni wedi’u lleoli ym Mhowys. Yn ystod yr ymweliadau, trafododd yr Arglwydd Bourne y rhwystrau i dwf yn y rhanbarth ac anogodd hwy i gynorthwyo â datblygu’r fargen. Hefyd, amlinellodd yr angen i’r sector breifat chwarae rhan yn sbarduno gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd yn y Canolbarth.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, Yr Arglwydd Bourne:

Mae cymeradwyo’r cytundeb rhwng awdurdodau yn gam angenrheidiol ymlaen sy’n cynrychioli cynnydd wrth weithio tuag at Fargen Dwf drawsnewidiol ar gyfer y Canolbarth.

Mae gweld Arweinwyr y Cynghorau yn dod at ei gilydd i edrych ar gryfderau a chyfleoedd yn economi’r rhanbarth yn galonogol iawn, ac mae’n creu momentwm sylweddol yn y broses.

Mae grymuso ardaloedd lleol i gynhyrchu twf economaidd, creu swyddi a sbarduno buddsoddi yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod pob rhan o’r DU yn gallu ffynnu. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo o hyd i gefnogi’r fargen a bydd yn parhau i annog buddsoddi yn y sector breifat.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Cwmni teuluol yw Davlec Cyf, cwmni gweithgynhyrchu nwyddau electronig a sefydlwyd yn 1983, sydd wedi’i leoli yn Y Trallwng yng nghanolbarth Cymru. Mae’r cwmni yn dylunio ac yn adeiladu nwyddau electronig ar gyfer amrywiaeth o sectorau yn eu canolfan yn Y Trallwng.

  • Mae Northern Industrial Battery Services yn gwmni sy’n arbenigwr achrededig arweiniol ym maes pŵer wrth gefn, wedi’i leoli yn Y Trallwng. Mae’r cwmni yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau, gan ddarparu cyngor technegol annibynnol a chynhyrchion a gwasanaethau technegol i fodloni anghenion amrywiol am bŵer wrth gefn mewn diwydiant.

Cyhoeddwyd ar 24 May 2019