Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU yn dathlu Wythnos Prydain Fawr Werdd yng Nghanolbarth Cymru

Yr Arglwydd Bourne yn dathlu llwyddiant prosiectau twf glân yng Nghanolbarth Cymru ac yn trafod dyfodol bargen twf y rhanbarth.

Lord Bourne taking a tour of IBERS, Aberystwyth University

Lord Bourne taking a tour of IBERS, Aberystwyth University

Yn yr wythnos pan fydd Llywodraeth y DU yn lansio’r Wythnos Prydain Fawr Werdd gyntaf, mae Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, yr Arglwydd Bourne, ar ei ffordd i Ganolbarth Cymru i ddathlu gwaith sefydliadau a busnesau sy’n hyrwyddo’r agenda twf glân. Fel rhan o’i ymweliad deuddydd, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd ag ystod o fusnesau yn y rhanbarth i ganfod sut y gallai Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau rhag twf, ac i’w hannog i gyfrannu at ei datblygiad, gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth.

Gan ymuno â miloedd o bobl ar hyd a lled y DU sy’n dathlu twf glân, bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld ag IBERS a’r Campws Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddysgu mwy am eu gwaith i drosi ymchwil arloesol yn atebion ymarferol i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i dwf glân, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn gweld sut mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn creu atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd i ymwelwyr o bob rhan o’r byd, gan gynnwys eco-lanweithdra, rheoli coetiroedd ac ynni adnewyddadwy.

Meddai’r Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:

Yn y flwyddyn sy’n nodi 10fed pen blwydd Deddf Newid yn yr Hinsawdd, nid oes amser gwell i adeiladu ar ein llwyddiant ac i fanteisio ar y cyfleoedd pwysig ar gyfer twf economaidd glanach yn y DU.

Rwyf yn croesawu gwaith IBERS a Chanolfan y Dechnoleg Amgen sy’n gwneud gwaith diflino i wireddu gweledigaeth y DU o dwf economaidd glân. Rhaid i’r gwaith o gyflawni twf glân fod yn fenter ar y cyd â Llywodraeth y DU, y cenhedloedd datganoledig, awdurdodau lleol, busnesau a phobl Prydain a dyna pam yr wyf heddiw yn annog pobl ym mhob rhan o’r wlad i ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Yn ystod ei ymweliad deuddydd â Chanolbarth Cymru, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth i drafod Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru. Bydd yr Arglwydd Bourne yn cwrdd â’r Athro Elizabeth Treasure ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod cynnydd y Brifysgol i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth trwy ymchwil ac arloesi, gan gynnwys datblygiadau fel y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ac Amaethyddiaeth Fanwl.

Bydd Wynnstay, gweithgynhyrchwyr cyfenwadau amaethyddol, hefyd yn croesawu’r Arglwydd Bourne wrth iddynt ddathlu eu 100fed pen blwydd. Yn ystod ei gyfarfod â’r Prif Weithredwr newydd Gareth Davies, bydd yr Arglwydd Bourne yn ystyried sut y gall y rhanbarth oresgyn rhwystrau rhag tyfu a sicrhau bargen twf sy’n gweithio i ganolbarth Cymru.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn symud pwerau o Lundain a Chaerdydd at arweinyddion lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau. Dyna pam yr wyf wedi ymrwymo i gydweithio’n AGOS â’r cwmnïau a’r grwpiau sydd wedi ymroi i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth.

Trwy lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol fodern, mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu’r amodau gorau ar gyfer ffyniant rhanbarthol, ond rhaid i’r sector preifat gymryd y camau angenrheidiol i hybu’r weledigaeth hon ar gyfer twf yng Nghanolbarth Cymru.

Gyda Llywodraeth y DU eisoes yn llofnodi cytundeb Penawdau’r Telerau ar gyfer Bargeinion Dinesig yng Nghaerdydd ac Abertawe a chyda negodiadau ar waith gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol ar gyfer bargen twf i Ogledd Cymru, byddai bargen twf llwyddiannus i Ganolbarth Cymru yn gweld Cymru gyfan yn elwa ar fargen ddinesig neu dwf Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2018