Gweinidog Llywodraeth y DU yn galw am gynnydd brys i fynd i’r afael â ‘mannau di-gyswllt’ yng Nghymru wledig
Guto Bebb: Mae pobl Cymru yn haeddu cysylltedd symudol o’r radd flaenaf

Mobile phone not spots
Bydd Guto Bebb yn cyhoeddi heddiw (25 Gorffennaf 2017), wrth ymweld â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, mai nawr yw’r amser i sicrhau bod pob cwr o Gymru yn cael pob chwarae teg o ran safon ei seilwaith symudol.
Flwyddyn ers i’r Gweinidog fod ar Faes y Sioe yn galw am weithredu ar draws y Llywodraeth a’r diwydiant er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cysylltedd symudol yng Nghymru wledig, bydd Mr Bebb yn achub ar y cyfle i adleisio’r galw hwn am i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i sicrhau bod cymunedau mwy gwledig yng Nghymru yn gallu mwynhau profiad symudol da.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:
Mae Llywodraeth y DU a busnesau wedi nodi’n glir pam mae cael cysylltedd symudol da yn bwysig ar gyfer ffyniant economi wledig Cymru yn y dyfodol.
Ers cychwyn yn y swydd, rydw i ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ddod â phartneriaid ynghyd i fynd i’r afael â’r broblem fawr o fannau di-gyswllt ledled y wlad. Dyna pam y cynhaliwyd uwchgynhadledd y diwydiant ddechrau’r flwyddyn i ateb yr heriau ac i ddatrys y broblem. Nawr mae angen gweithredu”.
Mae’r system gynllunio yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi darparwyr gwasanaethau a chymunedau i sicrhau bod y seilwaith ar gyfer cefnogi cysylltedd symudol yn cael ei ddarparu yn y lleoliadau iawn mewn modd cost-effeithiol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno diwygiadau cynllunio symudol yn Lloegr a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2016, a oedd yn cynnwys hawliau newydd i adeiladu mastiau uwch.
Ychwanegodd Mr Bebb:
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu amgylchedd lle gall y defnyddiwr ddisgwyl cael cysylltedd o safon uchel lle mae’n byw, yn gweithio ac yn teithio.
Ac er na fyddwn yn rhoi’r gorau i’n huchelgais i Gymru, ni allwn gyflawni’r nod hwn ar ein pen ein hunain. Er fy mod i’n falch gweld bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymchwilio i fastiau telegyfathrebu a hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru, nawr yw’r amser iddi gynnig ei diwygiadau cynllunio symudol ei hun er mwyn helpu i gyflwyno seilwaith symudol yng Nghymru, sy’n hir-ddisgwyliedig”.
Yn ystod ei ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru, bydd Mr Bebb hefyd yn cwrdd â Ffermwyr Ifanc, Comisiynydd y Gymraeg ac undebau ffermio i drafod y problemau a’r heriau sy’n wynebu’r sector wrth i Brydain baratoi i adael yr UE.