Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy na £500 y pen mewn ffyniant broydd ledled Cymru

Mae ffyniant bro yng nghymunedau wedi bod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth y DU eleni.

Picture of Welsh Secretary David TC Davies

Mae buddsoddiad ffyniant bro Llywodraeth y DU yn dod â manteision sylweddol i gymunedau yng Nghymru ac mae mwy i ddod yn 2023, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.

Mae’r cyllid ar gyfer ffyniant bro wedi cyrraedd £1.6 biliwn yng Nghymru erbyn hyn, sy’n cyfateb i fwy na £520 am bob unigolyn, a bydd y cyfanswm yn codi eto yn 2023 gyda miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad pellach.

Mewn neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd, dywedodd Mr Davies bod 2022 wedi bod yn anodd i lawer ar draws y wlad gyda heriau costau byw yn dilyn pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai Llywodraeth y DU yn dal i gefnogi miliynau o bobl ar draws y DU gyda chostau byw gan weithio i ddarparu swyddi, ffyniant a buddsoddiad yng Nghymru dros y flwyddyn i ddod.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Yn ystod 2022, mae effaith y pandemig ar ein heconomi a ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin a wthiodd brisiau ynni i fyny yn fwriadol, wedi arwain at heriau ariannol enfawr ac wedi golygu bod angen i ni gamu i mewn fel llywodraeth - fel y gwnaethom yn ystod y pandemig - i gefnogi miliynau o gartrefi a busnesau.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i helpu pobl ledled Cymru – fe wnaethom ddweud y byddem yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus, ac rydym wedi gwneud hynny drwy gyhoeddi pecyn gwerth £26 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan helpu cannoedd ar filoedd o aelwydydd ledled Cymru yn uniongyrchol wrth i ni wynebu’r heriau sydd o’n blaenau gyda’n gilydd.

Ond byddwn hefyd yn dal ati gyda’n ymgyrch allweddol i sicrhau ffyniant bro drwy’r DU. Hyd yma, mae Cymru wedi elwa mwy, yn gyfrannol, nag ardaloedd eraill o’r DU o’r cronfeydd newydd yr ydym wedi eu creu a gwelwyd arian yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau sy’n amrywio o welliannau i isadeiledd ffyrdd yn y Rhondda i arian i helpu pobl leol yng Ngwynedd i brynu eu tafarn gymunedol.

Mae pob rhan o’r Gymru yn dod o dan gytundeb twf, ac fe welodd 2022 lawer o’r pethau y mae Llywodraeth y DU wedi’u buddsoddi ynddynt ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac eraill yn dwyn ffrwyth.

Mae adfywio canol dinas Abertawe yn enghraifft wych o sut mae’r cytundebau twf yn sicrhau canlyniadau go iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o brosiectau trawsnewidiol ledled y wlad eleni. Agorodd Arena Abertawe, sy’n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ym mis Mawrth 2022 ac mae eisoes wedi denu 175,000 o ymwelwyr i’r lleoliad a chreu 100 o swyddi.

Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd, gwerth £585m, hefyd yn sbarduno buddsoddiad pellach yn ein cymunedau. Mae cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU bellach wedi cyrraedd £520 y pen yng Nghymru a gyda chyhoeddi rowndiau pellach o’r cronfeydd hyn yn 2023, bydd cymunedau ledled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd edrych yn ôl ar ddigwyddiadau arwyddocaol yng Nghymru a’r DU yn ystod 2022.

Meddai:

Roedd 2022 yn flwyddyn drist i’n gwlad ac yn flwyddyn na fyddwn yn ei hanghofio wrth i’r DU ddod at ei gilydd i alaru yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, a wasanaethodd am gymaint o flynyddoedd.

Mae gan y Brenin newydd berthynas gref a chadarn â Chymru gan iddo wasanaethu cyhyd fel Tywysog Cymru ac rwy’n gwybod y bydd y cysylltiadau rhwng y Teulu Brenhinol a phobl Cymru yn dal i dyfu ymhellach gyda’r Tywysog William yn ei olynu yn y rôl honno.

Roedd hi’n wych gweld y Brenin newydd yng Nghymru mor gynnar yn ei deyrnasiad i roi statws dinas i Wrecsam a nodi’r garreg filltir bwysig yma i Ogledd Cymru.

Ychwanegodd Mr Davies:

Mae gennym lawer i fod yn obeithiol yn ei gylch ac yn 2022 gwelwyd llawer iawn yn cael ei wneud yng Nghymru. Mae cig oen Cymru bellach yn cael ei allforio i’r UDA wedi i ni sicrhau codi’r gwaharddiad 20 oed ar allforion ac mae gan Gymru bellach gomisiynydd cyn-filwr penodol am y tro cyntaf sy’n gweithio i wella bywydau a hyrwyddo buddiannau cyn-filwyr yng Nghymru.

Mae gwarchod a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn hynod bwysig a chafodd S4C gynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth y DU a £7.5 miliwn y flwyddyn yn rhagor i gefnogi ei datblygiad digidol i’r dyfodol. Bydd hyn yn galluogi S4C i ddal i gyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y gynulleidfa iau.

Ac, wrth gwrs, 2022 oedd y flwyddyn y gwelsom Gymru o’r diwedd yn chwarae yng Nghwpan y Byd. Roedd hi’n fraint cael teithio i Qatar i gefnogi’r tîm a thra roeddwn yno fe wnes i gyfarfod gweinidogion Qatar ac eraill i drafod pynciau fel isadeiledd ynni, hediadau o’r newydd o Gaerdydd, cynyddu allforion a meysydd eraill sydd mor bwysig i economi Cymru.

Wrth edrych ymlaen at 2023, byddwn yn cyhoeddi Porthladd Rhydd newydd yng Nghymru yn y Flwyddyn Newydd. Nod y rhaglen Borthladdoedd Rhydd yw creu swyddi mewn diwydiannau newydd a chyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld gwaith y rhaglen yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gobeithio gweld cynnydd gyda golwg ar sicrhau buddsoddiad mewn ynni niwclear yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Rwy’n sicr bod gennym flwyddyn lewyrchus o’n blaenau yng Nghymru ac edrychaf ymlaen unwaith eto at deithio i bob rhan o’r wlad i weld buddsoddiad Llywodraeth y DU yn ein cymunedau a chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 December 2022