Datganiad i'r wasg

Cyllid gan Lywodraeth y DU yn creu Canolfan Diwydiannu yng Nghasnewydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Bydd Canolfan Diwydiannu Catapwlt CSA yng Nghasnewydd yn defnyddio cyfran o £30 miliwn i ddod yn un o bedair Canolfan Ragoriaeth a fydd yn ‘Gyrru'r Chwyldro Trydanol’ ar draws y Deyrnas Unedig

  • Rhwydwaith newydd arloesol o ganolfannau diwydiannol i helpu’r DU i sbarduno’r ymgyrch i gyrraedd sefyllfa sero-net erbyn 2050
  • Pedair canolfan ragoriaeth, wedi’u lleoli yng Nghasnewydd, Nottingham, Strathclyde a Sunderland, i helpu i drydaneiddio awyrennau, llongau a cheir
  • Y cyhoeddiad yn cael ei wneud wrth i Lywodraeth y DU gynnal cyfarfod o Bwyllgor Cabinet newydd a fydd yn canolbwyntio ar Newid Hinsawdd

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Llywydd COP 26, Alok Sharma, fuddsoddiad gwerth sawl miliwn o bunnoedd ar gyfer dylunio, profi a chynhyrchu peiriannau trydan yn rhai o ddiwydiannau’r DU sy’n creu’r llygredd mwyaf.

Datgelodd yr Ysgrifennydd Busnes fuddsoddiad gwerth £36.7 miliwn i gyd gyda’i gilydd gan Lywodraeth y DU. Bydd £30 miliwn ohono’n cael ei ddefnyddio i greu rhwydwaith o ganolfannau diwydiannol a fydd yn arbenigo mewn datblygu ac ymchwilio i drafnidiaeth drydan.

Bydd Canolfan Diwydiannu Catapwlt CSA yng Nghasnewydd yn defnyddio cyfran o’r £30 miliwn i ddod yn un o bedair Canolfan Ragoriaeth a fydd yn ‘Gyrru’r Chwyldro Trydanol.’ Bydd y canolfannau’n dod ag arloeswyr ym maes newid yn yr hinsawdd at ei gilydd i ddatblygu ac ymchwilio i beiriannau trydan gwyrdd a fydd yn cynnwys awyrennau, llongau a cheir.

Bydd pob canolfan yn gwthio gweithgynhyrchu yn y DU i flaen y gad o ran ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau y bydd y DU yn gallu cyrraedd y nod o allyriadau sero-net erbyn 2050.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Llywydd COP 26, Alok Sharma:

Mae’r chwyldro trydanol yn gyfle i’n sectorau trafnidiaeth leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Mae’r DU yn arwain y ffordd o ran datblygu technolegau glanach i’n helpu i gyrraedd ein targed o allyriadau sero erbyn 2050 a bydd y canolfannau newydd hyn yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yng Nghasnewydd yn creu cynhyrchiant ledled de Cymru, gan roi hwb i’r economi a gyrru ymchwil ac arloesed yng Nghymru yn ei flaen ar yr un pryd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wireddu ei addewid o allyriadau sero-net erbyn 2050. Gwelais sut y bydd Canolfan Diwydiannu Catapult CSA yn ein helpu i gyrraedd ein nod uchelgeisiol ac yn rhoi’r wlad ar flaen y gad o ran arloesi gwyrdd yn ystod fy ymweliad â Chasnewydd heddiw.

Bydd y canolfannau diwydiannu gwerth £30 miliwn yn gartref i’r gwaith o ddatblygu cynnyrch rhithwir, gweithgynhyrchu digidol a thechnegau cydosod datblygedig, a allai yrru gwelliannau a fydd yn arwain y byd yn eu blaenau ym maes profi a chynhyrchu peiriannau trydan.

Bydd hyn yn cynnwys electroneg pŵer a gyriannau a pheiriannau trydan. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol o ran cerbydau trydan ac, yn y pen draw, yng nghyswllt eu cyflwyno ar raddfa eang ar ein strydoedd.

Bydd dros 30 o sefydliadau partner ym maes ymchwil a thechnoleg yn rhan o’r canolfannau diwydiannu. Partner arweiniol y fenter, sef Prifysgol Newcastle, fydd yn arwain y rhwydwaith, ynghyd ag 21 o brifysgolion eraill o bob rhan o’r DU ac 13 Sefydliad Ymchwil a Thechnoleg – bydd y rhwydwaith yn hollbwysig o safbwynt denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor a newydd-ddyfodiaid arloesol i’r maes hwn.

Her Gyrru’r Chwyldro Trydanol

Hefyd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes yr 14 prosiect a ddaeth i’r brig yn her Gyrru’r Chwyldro Trydanol Llywodraeth y DU. Bydd un o’r prosiectau llwyddiannus, TRW o Bont-y-pŵl, yn cydweithio â Romax Technology i roi hwb i arbedion yn y gadwyn gyflenwi yng nghyswllt diwydiannau y bydd trydaneiddio yn effeithio arnynt, o’r diwydiant awyrofod i’r diwydiant modurol, i’r diwydiant ynni a’r diwydiant rheilffyrdd.

Bydd £6.7 miliwn ar gael i gyd gyda’i gilydd i’w rannu rhwng y 14 prosiect, sy’n cynnwys 38 busnes mawr o bob rhan o’r DU, gan gynnwys GKN, Jaguar Land Rover a Rolls-Royce.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog gynnal cyfarfod cyntaf pwyllgor Cabinet newydd a fydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan drafod sut y gall Llywodraeth y DU symud yn nes ac yn gynt at sefyllfa sero-net.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 5 March 2020