Llywodraeth y DU yn dyfarnu £1.4miliwn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod
Ysgrifennydd Cymru: Bydd cyllid yn cynnig cymorth yn syth i ddioddefwyr i sicrhau eu bod yn gallu teimlo’n ddiogel.

Bydd prosiect De Cymru’n derbyn cyfran o gronfa o £17miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i helpu i atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod.
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn dyfarnu £1.4miliwn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer eu Rhaglen Trais yn erbyn Merched a Genethod yn Ne Cymru.
Dyfernir y grant drwy Gronfa Trawsnewid Gwasanaeth Trais yn erbyn Merched a Genethod yn Ne Cymru Llywodraeth y DU. Ei bwrpas yw hyrwyddo prosiectau sy’n arwain y ffordd i atal trais cyn iddo ddigwydd, atal ymddygiad bygythiol rhag ymwreiddio, a sefydlu’r ffyrdd gorau i helpu dioddefwyr a’u teuluoedd.
Yn Ne Cymru, bydd £1.4 miliwn yn mynd at raglen eang o gymorth gan ddefnyddio’r fframwaith ‘Newid sy’n Para’. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno’r cynllun ‘Gofynnwch i Mi’ gan hyfforddi hyd at 30 o ‘lysgenhadon cymuned’ i adnabod arwyddion cam-drin a darparu mannau diogel o fewn cymunedau lle gall merched roi gwybod am gamdriniaeth.
Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru:
Mae rhoi terfyn ar drais yn erbyn merched a genethod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU.
Mae hawl gan bawb i fyw’n ddiogel a heb ofn a bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth y DU i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru’n cynnig cymorth yn syth i ddioddefwyr i sicrhau eu bod yn gallu teimlo’n ddiogel.
Rwy’n falch o’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i gyflawni hyd yma i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched. Ond mae’n broblem gymhleth na allwn ei datrys ar ein pen ein hunain. Dyna pam yr ydym yn anfon neges glir i asiantaethau lleol - yn cynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol - y dylai mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod fod yn flaenoriaeth iddyn nhw hefyd.
Trwy weithio gyda’n gilydd a herio’r troseddau ffiaidd hyn byddwn yn dod o hyd i ffyrdd i’w trechu. Rwy’n benderfynol o weld dyfodol lle nad oes raid i unrhyw ferch na geneth fyw mewn ofn. Mae Cronfa Trawsnewid Gwasanaeth Trais yn erbyn Merched a Genethod yn Ne Cymru yn dod â ni un cam yn nes at gyrraedd y sefyllfa honno.
Fel rhan o’r gwaith ymyrraeth gynnar ac i dorri cylch trais, mae Llywodraeth y DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol i newid agweddau ac ymddygiad troseddwyr, i sicrhau bod rhaglenni adsefydlu, ymyriadau iechyd meddwl a rhaglenni priodol eraill ar gyfer troseddwyr yn eu lle.
Heddiw cyhoeddwyd yr arian ar gyfer ceisiadau llwyddiannus mewn araith gan yr Ysgrifennydd Gwladol i aelodau’r gynhadledd Cymorth i Ferched yn Coventry.
Meddai Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol:
Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod yn fusnes i bawb. Mae angen ymateb cydweithredol a chydgysylltiedig yn lleol, gan gynnig cymorth i ddioddefwyr drwy iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r heddlu.
Bydd y prosiectau hyn yn helpu i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth priodol ar yr adeg briodol, yn ogystal ag ymyrryd yn gynnar i atal y troseddau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae Trais yn erbyn Merched a Genethod yn dinistrio bywydau dioddefwyr a theuluoedd a bydd y Llywodraeth yma’n parhau i wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu pobl rhag y troseddau erchyll hyn.
Mae cyhoeddiad heddiw’n arwydd pellach o ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod ac mae’n dilyn cadarnhad yn Araith ddiweddar y Frenhines o’r Bil Trais a Cham-drin Domestig arfaethedig.
Bydd yn cynnwys gorchymyn cam-drin domestig, diogelu ac atal sifil newydd cyfunol, ac yn cynnwys diffiniad o gam-drin domestig mewn cyfraith. Bydd yn sefydlu Comisiynydd Trais a Cham-drin Domestig i sefyll dros ddioddefwyr a goroeswyr.
Bydd y ddeddfwriaeth yn fodd i’r Llywodraeth gadarnhau Confensiwn Istanbwl, a fydd yn galluogi i lysoedd y Deyrnas Unedig erlyn dinasyddion o Brydain am gam-drin domestig waeth ble yn y byd y cyflawnwyd y trosedd.
Os yw ymddygiad bygythiol yn ymwneud â phlentyn, yna bydd y Bil hefyd yn sicrhau y gall y llys roi dedfryd sy’n adlewyrchu’r effaith ddinistriol a pharhaol y gall cam-drin ei gael.
Yn y Senedd ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn merched a genethod, gan ddweud yn glir bod angen i bawb chwarae ei ran – ffrindiau, teulu, cyflogwyr, darparwyr iechyd a’r heddlu. Hefyd cyflwynodd drosedd penodol, sef ymddygiad cymhellol neu reoli ymddygiad.
Nodiadau i olygyddion
- Ymrwymodd Strategaeth Trais yn erbyn Merched a Genethod, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2016, i lansio Cronfa Trawsnewid Gwasanaeth Trais yn erbyn Merched a Genethod fel rhan o’r £80miliwn a addawyd i gefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Merched a Genethod a sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth angenrheidiol. Yn dilyn swm ychwanegol o £20miliwn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn, rydym wedi addo £100miliwn o arian yn ystod cyfnod yr Adolygiad Gwariant.