Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb i apêl Cofeb Fflandrys drwy Gymorth Rhodd

Heddiw, cyhoeddodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd pob rhodd i’r Ymgyrch i gael Cofeb i’r Cymry fu farw yn Fflandrys yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Flanders War Memorial Appeal

Hyd yn hyn, mae’r apêl gyhoeddus wedi codi £40,000 ar gyfer y gofeb i’r Cymry a wasanaethodd yng Ngwlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ymgyrchwyr yn apelio am £50,000 yn ychwanegol i helpu i dalu am ddraig goch efydd i fynd ar ben y gofeb.

Mae awdurdod taleithiol Gorllewin Fflandrys wedi cytuno i greu a chynnal gardd goffa Gymreig o amgylch y gofeb.

Heddiw, cadarnhaodd Mr Jones y bydd yr holl roddion i gronfa’r ymgyrch ers sefydlu’r elusen ym mis Mawrth eleni, yn ogystal ag unrhyw roddion yn y dyfodol, yn cael hwb o 25% drwy Gymorth Rhodd, a hynny heb gost ychwanegol i’r rhoddwr.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar hanes. Mae’n gwbl briodol ein bod yn sicrhau ein bod yn cofio ac yn coffau aberth y Cymry yn ystod y gwrthdaro hwnnw.

Felly rwy’n falch o gyhoeddi y bydd yr holl roddion a dderbyniwyd o’r dyddiad y sefydlwyd yr elusen, a phob rhodd yn y dyfodol, yn gymwys am Gymorth Rhodd. Nawr bydd modd i’r elusen hawlio 25 ceiniog yn ychwanegol am bob punt a roddir. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r swm a roddwyd yn barod, ac i lwyddiant yr apêl y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w chefnogi, yn y dyfodol.

Byddwn yn annog pawb y mae aberth y dynion a’r merched dewr o Gymru wedi cyffwrdd â’u calonnau, i gyfrannu at yr apêl hon er mwyn sicrhau yr anrhydeddir eu hymdrechion arwrol a sicrhau na fyddwn yn anghofio amdanynt byth.

Mae nifer o gysylltiadau Cymreig â’r gofeb newydd yn Fflandrys.

Fe’i lleolir ychydig fetrau’n unig o’r man ble bu farw’r bardd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 – diwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, a diwrnod pan enillodd tri o’i gymrodyr Groes Victoria.

Dywedodd yr Uwchgapten Merfyn Thomas (sydd wedi ymddeol), aelod o Bwyllgor Gogledd Cymru ar gyfer yr Ymgyrch i gael Cofeb i’r Cymry fu farw yn Fflandrys:

Bydd cael statws Cymorth Rhodd i’n cronfa yn golygu cynnydd sylweddol mewn refeniw ar gyfer y gofeb gwerth chweil hon i’r dynion a’r merched a wasanaethodd yn Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a bydd yn help mawr i ni gyrraedd ein nod o £90,000.

NODIADAU I OLYGYDDION

*Mae Cymorth Rhodd yn ffordd i elusennau gynyddu gwerth rhodd o arian gan drethdalwyr y DU drwy hawlio’r gyfradd dreth sylfaenol a dalodd y rhoddwr ar y rhodd. Gall gynyddu gwerth rhodd o chwarter a hynny heb gost ychwanegol i’r rhoddwr.

*Caiff penderfyniadau ynghylch statws Cymorth Rhodd eu gwneud yn annibynnol gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

*Os ydych chi’n talu treth yn y DU, gallwch gynyddu gwerth eich rhoddion i elusennau drwy ddewis rhoi drwy ‘Gymorth Rhodd’. Gall elusennau hawlio 25 ceiniog ychwanegol am bob punt a roddir.

*I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 020 7270 0565

Delwedd drwy garedigrwydd Dave Hamster ar Flickr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Medi 2013 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.