Datganiad i'r wasg

#PwysoamGynnydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Llywodraeth y DU a Chwarae Teg yn dod at ei gilydd i cynnal brecwast menywod mewn busnes

Rhaid i lywodraethau, busnesau a chymdeithas barhau i fod yn fentrus os ydynt am sicrhau newid gwirioneddol i fenywod yng Nghymru a’r byd, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns heddiw wrth i Lywodraeth y DU nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth).

Y thema eleni yw #PwysoamGynnydd – galwad ar y byd i weithredu trwy gymryd camau pendant i helpu i gyflawni cydraddoldeb rhywiol yn gyflymach.

Ac ar hyd a lled Cymru heddiw, bydd dynion a menywod yn cymryd rhan mewn rhaglen gyffrous o ralïau, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau i danlinellu’r neges bod angen parhau i godi ymwybyddiaeth ac i weithredu i sicrhau bod cydraddoldeb i fenywod yn cael ei gyflawni a’i gynnal ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae Llywodraeth y DU yng Nghymru a’r elusen cydraddoldeb rhywiol Gymreig Chwarae Teg yn chwarae eu rhan ddydd Llun 12 Mawrth wrth iddynt ddod at ei i drefnu brecwast busnes ar themâu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym Mae Caerdydd.

Bydd cynnig cymorth a chreu cyfleoedd i fenywod a genethod i wneud cynnydd o’r ystafell ddosbarth i ystafell y bwrdd ar frig yr agenda yn y digwyddiad a fydd hefyd yn edrych ar ffyrdd o chwalu rhwystrau yn y gweithle a sut i greu gweithleoedd cynhwysol er budd economi Cymru.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Ers gormod o amser, nid oes digon wedi bod yn cael ei wneud i helpu menywod i gyflawni eu gwir botensial. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn gweithio’n galed i’w gyflawni.

Yn ystod y misoedd diwethaf gwelwyd newid gwirioneddol mewn agweddau tuag at fenywod a chydraddoldeb rhywiol, ac mae Llywodraeth y DU am fanteisio ar y teimladau cryfion hyn i fwrw ymlaen i sicrhau mwy fyth o newid.

Dyna pam yr wyf wrth fy modd yn cael y cyfle hwn i gydweithio â Chwarae Teg i groesawu menywod at ei gilydd yn y digwyddiad hwn i ddathlu cynnydd a chyflawniadau menywod mewn busnes, a hefyd i gymryd munud i feddwl am yr holl heriau sydd o’n blaenau.

Meddai Prif Weithredydd Chwarae Teg, Cerys Furlong:

Ein gweledigaeth yn Chwarae Teg, yw Cymru sy’n arwain y byd mewn cydraddoldeb rhywiol. Dim ond pan fydd gan fenywod gynrychiolaeth gyfartal a mynediad cyfartal at y gweithle y gall economi Cymru ffynnu fel y dylai.

Mae Chwarae Teg yn gweithio â busnesau a sefydliadau ar hyd a lled Cymru i’w helpu i fynd ati i chwalu’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu, ac i greu gweithleoedd cynhwysol y bydd pawb yn elwa arnynt. Rhaid i fenywod gael eu gweld a’u clywed ar bob lefel ac ar draws cymdeithas gyfan.

Mae mwy o fenywod wrth y bwrdd yn golygu bod y materion sy’n effeithio ar fenywod yn cael eu trafod a bod atebion yn cael eu canfod a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a deddfwriaeth well i bawb. Rhaid i fenywod hefyd deimlo’n ddiogel yn y gweithle; rydym am weld ymagwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu a cham-drin rhywiol a fydd yn arwain at newid sylweddol mewn diwylliannau gweithio.

Erbyn hyn mae 44,000 yn fwy o fenywod yn gweithio yng Nghymru nag oedd yn 2010, ac mae Llywodraeth y DU yn cymryd camau breision i gyflawni’r newidiadau ac i greu’r amodau sydd eu hangen ar fenywod o bob cefndir sydd am ehangu eu gorwelion ac anelu’n uwch.

Sut mae Llywodraeth y DU yn arwain trwy esiampl:

  • Y DU yw un o’r gwledydd cyntaf i gyflwyno gofynion adrodd ar y bwlch cyflogau rhwng y rhywiau (GPG). Bydd y ddeddf hon yn golygu y bydd yn rhaid i bob cyflogwr mawr gyhoeddi eu ffigur GPG, i ddangos ble mae merched yn cael eu dal yn ôl.
  • Cyflwyno Absenoldeb Rhiant a Rennir i roi dewis i rieni cymwys pan ddaw’n fater o ofal plant, a galluogi mamau i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt os mai dyna yw eu dymuniad.
  • Cyflwyno cynlluniau gofal plant di-dreth y mae miloedd o deuluoedd yng Nghymru’n gallu elwa arnynt.
  • Addunedu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod gartref a thramor trwy gyflwyno deddfau newydd llym i amddiffyn menywod rhag trais domestig, priodasau dan orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod (FGM).
  • Lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol – cynllun tymor hir i baratoi Prydain ar gyfer y dyfodol trwy helpu busnesau i greu swyddi gwell, sy’n talu cyflogau uwch ym mhob rhan o’r DU.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod o ddathliadau byd-eang i nodi cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod ddoe, heddiw a’r dyfodol.

  • Mae Chwarae Teg yn elusen sy’n gweithio yng Nghymru i hybu datblygiad economaidd menywod yn ogystal â gweithio â busnesau a sefydliadau i ddatblygu a gwella arferion gweithio.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2018