Camau gweithredu Llywodraeth y DU i hybu pwerdy Gogledd Cymru
Alun Cairns: Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun economaidd ar gyfer Gogledd Cymru ac rydyn ni'n benderfynol o greu'r amodau cywir ar gyfer twf.
Heddiw (30 Ionawr 2015), cynhaliodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns uwchgynhadledd ar drafnidiaeth gydag arweinyddion busnes yng Ngogledd Cymru i drafod manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer twf economaidd yn yr ardal. Roedd y digwyddiad yn blatfform i fusnesau, y diwydiant trafnidiaeth a’r llywodraeth drafod y seilwaith sy’n ofynnol yng Ngogledd Cymru a pharatoi cynllun ar y cyd i atgyfnerthu’r achos dros drydaneiddio’r rheilffordd.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb ym mis Tachwedd y byddai’n pledio’r achos dros drydaneiddio rheilffordd Gogledd Cymru i gydweithwyr sydd wrth wraidd y Llywodraeth ac roedd yr uwchgynhadledd heddiw yn helpu i ystyried yn union beth fyddai ei angen i gyflawni hynny.
Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd ar drafnidiaeth wythnosau yn unig cyn adroddiad gan Dasglu Trydaneiddio Gogledd Lloegr ar drydaneiddio’r rheilffordd yn Lloegr a thrafododd y cynadleddwyr yr achos dros gael rhwydwaith rheilffyrdd a oedd yn cysylltu â dinasoedd yn Lloegr er mwyn hybu economi Gogledd Cymru.
Dywedodd Alun Cairns:
Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun economaidd ar gyfer Gogledd Cymru ac rydyn ni’n benderfynol o greu’r amodau cywir ar gyfer twf. Rydw i am gysylltu Gogledd Cymru â’r dinasoedd yn Lloegr er mwyn i ni allu masnachu, tyfu, denu buddsoddiad preifat a denu’r bobl orau i’r ardal.
Arweinyddion busnes yng Ngogledd Cymru sy’n gyrru’r adferiad economaidd yng Nghymru, a nhw yw’r bobl sy’n gwneud Gogledd Cymru yn Bwerdy Gogleddol i ni. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i greu twf economaidd, swyddi a chyfleoedd i bobl sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.
Trafododd y cynadleddwyr hefyd y cysylltiadau ffyrdd yng Ngogledd Cymru, yn arbennig y llwybrau trawsffiniol a bydd Alun Cairns yn rhannu argymhellion y trafodaethau â chydweithwyr yn yr Adran Drafnidiaeth. Cwmpaswyd manteision Halton Curve a HS2 hefyd i Ogledd Cymru.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw aeth Alun Cairns i ymweld â safle Carchar Wrecsam i weld sut mae gwaith yn mynd rhagddo ac i gynnal Symposiwm Cyflogaeth a Sgiliau ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam o 12 o’r gloch ymlaen. Daeth awdurdodau lleol, darparwyr gwaith ac addysg o bob cwr o Ogledd Cymru a’r siroedd cyfagos yn Lloegr ynghyd yn y digwyddiad i drafod sut i gyflawni’r ymrwymiadau ynghylch prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chyflogaeth leol mewn modd cydlynol a hygyrch. Amlygodd Mr Cairns y manteision i’r economi leol ac ymdrechion Llywodraeth y DU i gynnal swyddi lleol yn y cadwyni cyflenwi.
Dywedodd Alun Cairns:
Mae Carchar Wrecsam yn gyfle gwych i greu swyddi a thwf yng Ngogledd Cymru. Aeth 280 o fusnesau a oedd yn gysylltiedig ag adeiladu i’n digwyddiad caffael y llynedd ac mae £1.1 filiwn eisoes wedi cael ei neilltuo i fusnesau lleol – sy’n uwch o lawer na’r targed a ddisgwyliwyd ar gam mor gynnar.
Gyda mwy na 75 y cant o’r rheini a gyflogir ar y safle yn dod o’r ardal leol, mae economi Gogledd Cymru eisoes yn elwa ac rydw i’n hyderus, drwy ein cynlluniau uchelgeisiol, y bydd yn parhau i wneud hynny dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.