Datganiad i'r wasg

Y DU yn buddsoddi mwy na £1bn ar amddiffyn yng Nghymru

Ystadegau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2018-19 yn dangos mwy na 7,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan wariant amddiffyn y DU

Ajax vehicle driving towards the camera.

Mae gwariant y DU ar amddiffyn yng Nghymru wedi cyrraedd mwy na £1 biliwn am y tro cyntaf (2018-19) ac yn cefnogi mwy na 7,000 o swyddi.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi ffigyrau heddiw (30 Ionawr) yn dangos bod gwariant caffael yr adran yng Nghymru wedi cynyddu o £960m yn 2017-18 i £1bn y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o £310 i £350 y pen mewn gwariant.

Mae’r prosiectau amddiffyn mawr yng Nghymru yn cynnwys cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o gerbydau arfog AJAX y Fyddin yn General Dynamics ym Merthyr Tudful ac Oakdale, datblygu Canolfan Llynges Frenhinol newydd gwerth 11m ym Mae Caerdydd a chytundeb gwerth £250m gyda Raytheon ym Mrychdin i ddarparu gwasanaeth cefnogaeth i’r Llu Awyr Brenhinol o awyrennau gwyliadwriaeth.

Amcangyfrif fod tua 7,700 o swyddi mewn amddiffyn yng Nghymru bellach yn cael eu cefnogi gan wariant amddiffyn Llywodraeth y DU, cynnydd o 6,300 yn 2017-18.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Gwariodd y DU mwy na £1bn ar amddiffyn gyda diwydiant Cymru’r flwyddyn diwethaf gan gefnogi miloedd o swyddi yn y sector breifat.

Mae’r buddsoddiad yma mewn busnes megis General Dynamics, Raytheon ac eraill yn gwneud Cymru’n ganolbwynt gwirioneddol i’r diwydiant amddiffyn ac un o’r lleoliadau mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi a darparu diogelwch.

Ymhlith y canolfannau milwrol yng Nghymru, mae cartref pencadlys Brigâd 160 Cymru yn Aberhonddu tra bod uned lai wedi ei leoli yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan a fydd yn dod yn brif ganolfan y Fyddin yng Nghymru yn ogystal â chanolfan fawr y Llu Awyr Brenhinol.

Yn 2017, adferwyd rhedfa’r Llu Awyr Brenhinol yn Fali, Ynys Môn fel rhan o waith adnewyddu gwerth £20m gan ymestyn ei fywyd gweithredol am 25 mlynedd arall. Mae holl beilotiaid ymladd y DU yn pasio drwy Fali cyn cyrraedd eu sgwadron ar y llinell blaen.

Mae’r ardal o amgylch Aberhonddu a Phontsenni yn gartref i gyfleusterau hyfforddi mawr y Fyddin a bob blwyddyn mae Ymarferiad y Cambrian Patrôl yn cael eu cynnal lle mae unedau milwrol o bob cwr o’r byd yn teithio i Gymru i brofi eu hunain ar y cwrs deuddydd heriol.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace:

Mae amddiffyn yn parhau i ddarparu diogelwch a ffyniant wrth i weld biliynau yn cael eu buddsoddi ar draws y DU gan gefnogi cannoedd o filoedd o swyddi dilynol.

Mae buddsoddiadau amddiffyn eraill diweddar Llywodraeth y DU yng Nghymru yn cynnwys dyfarnu cytundeb gwerth £82m i Qioptig sydd wedi’i lleoli yn Llanelwy i gynnal a chadw offer gwyliadwriaeth ac offer targedu dros y bum mlynedd nesaf.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Cyhoeddwyd ar 30 January 2020