Stori newyddion

Y DU yn dod yn Aelod Cyswllt o Sefydliad Addysg De Ddwyrain Asia

Bydd aelodaeth y DU o Sefydliad Gweinidogion Addysg De Ddwyrain Asia (SEAMEO) yn helpu i gryfhau ei mentrau addysg yn Ne Ddwyrain Asia, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wrth iddo arwain dirprwyaeth y DU i 47fed cynhadledd y Cyngor yn Fietnam heddiw (20 Mawrth).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r DU wedi dod yn Aelod Cyswllt o SEAMEO – sefydliad rhyngwladol a sefydlwyd ymysg llywodraethau gwledydd de ddwyrain Asia i hyrwyddo cydweithrediad rhanbarthol ym meysydd addysg, gwyddoniaeth a diwylliant.

Bydd yr aelodaeth yn caniatáu i’r DU atgyfnerthu ei pherthynas bresennol â rhwydwaith addysg De Ddwyrain Asia, ac i feithrin cysylltiadau addysg rhanbarthol newydd er mwyn dod â ffyniant i’r holl wledydd sy’n aelodau o SEAMEO.

Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar ran Llywodraeth y DU yn uwchgynhadledd SEAMEO yn Hanoi lle cyfeiriodd at yr achlysur o’r DU yn ymuno â SEAMEO, a’r manteision a ddaw o fod yn aelod.

Dywedodd:

“Mae addysg yn golofn ganolog yn y berthynas sydd gennym eisoes gydag aelod-wladwriaethau unigol SEAMEO. Bydd ein haelodaeth yn ategu’r gwaith hwnnw. Ond bydd hefyd yn helpu’r DU i ddatblygu ei mentrau addysg ar sail ranbarthol, gan gymryd arweiniad o’r ffordd y mae aelod-wladwriaethau ASEAN yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn ysbrydoli’i gilydd.

“Mae gan y DU gynnig deniadol i’w wneud yng nghyswllt addysg. Mae gradd o brifysgol ym Mhrydain yn cynnig safon fyd-enwog a phrofiad diwylliannol cyfoethog. Rydym am ddefnyddio ehangder ac ansawdd ein system addysg i gryfhau rhagor ar ein cysylltiadau gyda De Ddwyrain Asia.

“A bydd ein haelodaeth gyswllt o SEAMEO yn ein helpu i gyflawni’r dyhead hwn. Mae’r cysylltiadau addysg rhwng y DU a Fietnam yn gryf iawn yn barod. Rydym eisoes yn darparu rhaglen uchelgeisiol mewn perthynas â hyfforddiant galwedigaethol ac eleni rydym wedi cytuno i lansio prifysgol rhwng y DU a Fietnam o safon ryngwladol yn Danang.

“Ond rydym eisiau gwneud mwy. Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i weithio, nid yn unig gyda SEAMEO, ond ledled de ddwyrain Asia, gyda’r prif nod o fanteisio ar y buddion ehangach a ddaw yn sgîl y cydweithrediad hwn.”

Yn ystod ei ymweliad â Fietnam, cyfarfu Mr Jones hefyd â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Tuan yn y Weinyddiaeth Addysg a Hyfforddiant. Buont yn trafod y cysylltiadau addysg rhwng y DU a Fietnam, a chyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio.

Yn y cyfarfod hefyd yr oedd yr Athro Brian Foxon, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rhyngwladol Prifysgol Glyndŵr sy’n cynrychioli buddiannau holl brifysgolion Cymru ar yr ymweliad hwn. Cymerwyd y cyfle ganddynt i ddisgrifio gwaith prifysgolion Cymru a’r cynnig y maent yn gorfod ei wneud i fyfyrwyr o Fietnam sy’n gobeithio dod i astudio i’r DU.

Mae Prifysgol Abertawe eisoes yn cydweithio gyda phrifysgolion Fietnam. Mae tîm Gwasanaethau Hyfforddiant Saesneg y brifysgol eisoes wedi darparu hyfforddiant i 25 o swyddogion yng ngweinyddiaethau Fietnam yn ystod haf 2012, gyda’r gobaith y bydd rhagor o hyfforddiant yn cael ei gynnal. Mae gan Brifysgol Glyndŵr hefyd gysylltiadau agos â’r wlad ac mae ganddi Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfleoedd Addysg Uwch gyda Chorfforaeth Teledu a Chyfryngau Fietnam.

Dywedodd yr Athro Foxon:

“Mae ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru â chynhadledd SEAMEO yn rhoi neges glir i’r rhanbarth fod prifysgolion Prydain yn wirioneddol awyddus i feithrin partneriaethau cryf gyda busnesau a phrifysgolion lleol.

“Mae effaith ariannol y cysylltiadau hyn ar brifysgolion Prydain yn sylweddol. Mae ei ymweliad felly wedi agor drysau ar gyfer cael trafodaethau cynhyrchiol gydag asiantaethau’r llywodraeth, busnesau rhanbarthol a phartneriaid addysg.”

Ychwanegodd Mr Jones:

“Mae’r DU, yn enwedig prifysgolion Cymru, yn gweld gwerth mewn partneriaethau rhyngwladol. Maent yn fwyfwy pwysig o ran ymchwil ac arloesi ac rydym yn awyddus i sicrhau partneriaethau ychwanegol rhwng Prifysgol Genedlaethol Fietnam a phrifysgolion yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd mae’r DU yn denu 13% o’r farchnad myfyrwyr addysg uwch rhyngwladol – dim ond yn UDA y ceir mwy. Yn 2011/12, roedd 435,235 o fyfyrwyr rhyngwladol yn astudio yn y DU, 302,680 ohonynt o du allan i’r UE.”

Dywedodd Mark Harper, y Gweinidog Mewnfudo:

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi a chafwyd tri y chant o gynnydd y llynedd yn y ceisiadau am fisas myfyrwyr a noddir ar gyfer y sector prifysgolion. Yn Fietnam ei hun, cafodd dros 12,000 o fisas caniatáu mynediad eu rhoi y llynedd ac roedd dros chwarter o’r rheini’n fisas i astudio.

“Does dim terfyn ar nifer y myfyrwyr a all ddod yma; gall prifysgolion gyflwyno eu profion iaith eu hunain; a gall graddedigion aros a gweithio os byddant yn dod o hyd i swydd ar lefel gradd. Mae’r DU ar agor i’r myfyrwyr gorau a mwyaf disglair o bob rhan o’r byd.”

Cyhoeddwyd ar 26 March 2013